Myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor yn Ennill Cymrodoriaeth Gysylltiol Addysg Uwch
Rydym yn falch o longyfarch Negar Noveiri Delshad, myfyriwr PhD cyntaf yn Ysgol Fusnes Albert Gubay i ennill Cymrodoriaeth Gysylltiol Addysg Uwch (AFHEA), sy’n cydnabod rhagoriaeth yn ei haddysgu, ei gweithgarwch ysgolheigaidd a’i hymrwymiad i ddysgu myfyrwyr.
Dywedodd Negar:
“Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy nghydnabod fel Cymrawd Cysylltiol gan 'Advance HE'. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu fy ymroddiad yn ystod fy astudiaethau PhD ym Mhrifysgol Bangor i gynllunio a chyflwyno amgylcheddau dysgu cynhwysol, myfyriol ac sy’n seiliedig ar ymchwil, ynghyd ag addysgu o ansawdd uchel sy’n ysgogi dysgu myfyrwyr, mewn modd sy’n cyd-fynd â Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU mewn Addysg Uwch.”
Mae llwyddiant Negar yn tynnu sylw at gryfder cymuned ymchwil Bangor a rôl hanfodol ein myfyrwyr ôl-raddedig wrth weithredu arloesedd a chodi safonau addysgu yn y sector. Mae hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad yr Ysgol i feithrin amgylchedd lle gall ymchwilwyr roi eu harbenigedd ar waith i ysbrydoli dysgwyr ac atgyfnerthu arfer academaidd.
Archwiliwch gyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor yma.