Busnes a rheolaeth yw'r radd israddedig a astudir fwyaf yn y Deyrnas Unedig, gyda 114 o brifysgolion ar y rhestr hon.
Casglodd y Brifysgol gyfanswm o 242 pwynt — gan gyflawni 100% ar ansawdd addysgu a chefnogaeth academaidd wrth gynnig y gost byw fwyaf fforddiadwy o unrhyw ysgol fusnes yn y set ddata hon.
Mae Unifresher wedi'i adeiladu gan dîm o fyfyrwyr sy’n gweithredu fel golygyddion ac awduron ac sy'n ymdrin â safleoedd prifysgol, canllawiau dinasoedd, llety a chyngor ymarferol.
Yn ei rhestrau busnes a rheolaeth diweddaraf, cafodd 114 o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig eu rhestru yn ôl safle ar draws wyth metrig: enillion graddedigion, ansawdd addysgu, boddhad myfyrwyr, cefnogaeth academaidd, diogelwch, costau byw, bywyd cymdeithasol a chynaliadwyedd.
Dywedodd yr Athro Bruce Vanstone, Pennaeth Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, “Mae’r rhestrau hyn yn tanlinellu bod y myfyrwyr sy’n ymuno â ni yn profi amgylchedd bywiog a chefnogol lle mae eu syniadau’n cael eu gwerthfawrogi, eu huchelgeisiau’n cael eu meithrin, a’u gyrfa yn y dyfodol yn cael ei flaenoriaethu. Mae'n dyst i waith caled, sgiliau, ymroddiad ac arbenigedd dwfn ein staff ledled yr ysgol, ac mae hefyd yn adlewyrchiad gwych o'r myfyrwyr sy'n dod i astudio yma.”