Yr Athro Emeritws Piers Chapman - Cyn-fyfyriwr a chemegydd morol ac eigionegydd o fri rhyngwladol - am gyfraniad at Wasanaeth Cyhoeddus
Mae Piers Chapman yn gemegydd morol ac eigionegydd uchel ei barch yn rhyngwladol y mae ei yrfa'n cwmpasu ymchwil, arweinyddiaeth a chydweithio byd-eang mewn eigioneg. Graddiodd o Brifysgol Bangor gyda BSc mewn Cemeg ym 1971 ac yn ddiweddarach cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Bioleg Môr ym 1983, gan sefydlu cysylltiad gydol oes â'r Brifysgol. Mae wedi gweithio yn y Deyrnas Unedig, De Affrica a Gwlff Mecsico, gan gyhoeddi'n helaeth ar gemeg forol, rhanbarthau ocsigen isel a defnyddio olrheinwyr cemegol mewn eigioneg graddfa fawr. Bu ganddo swyddi uwcharweiniol ym Mhrifysgol Texas A and M, gan gynnwys Pennaeth yr Adran Eigioneg, a chyfarwyddodd raglenni ymchwil mawr yno ac ym Mhrifysgol Talaith Louisiana. Mae’n Athro Emeritws bellach, a dychwelodd i'r Deyrnas Unedig yn 2023, gan adael gwaddol rhyngwladol parhaol mewn gwyddor forol ac arfordirol.
Dr Elin Haf Davies - Clinigydd, entrepreneur ac eiriolwr dros iechyd plant - am gyfraniad at Wasanaeth Cyhoeddus
Mae Dr Elin Haf Davies yn glinigydd, gwyddonydd ac entrepreneur o Gymru sy'n cael ei chydnabod am drawsnewid ymchwil a threialon clinigol ym maes clefydau pediatrig a phrin. Magwyd Elin ar fferm yn Y Parc ger y Bala, a dechreuodd ar ei gyrfa fel nyrs plant yn Ysbyty Great Ormond Street, lle ffurfiwyd ei hymrwymiad i wella gofal i blant sy'n ddifrifol wael. Aeth rhagddi i astudio niwrowyddoniaeth a dulliau ymchwil, gan gwblhau doethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ac yn ddiweddarach gweithiodd yn Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop yn cefnogi cyflwyno rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd ynghylch meddyginiaeth bediatreg. Yn 2015 sefydlodd Aparito, cwmni technoleg feddygol sy'n arloesi mewn treialon clinigol a datganoledig sy'n canolbwyntio ar y claf, yn enwedig ar gyfer cleifion sydd â chlefydau prin. Cafodd Aparito ei brynu gan Eli Lilly and Company yn 2024. Mae Elin yn anturiaethwraig ac yn awdures ddawnus, ac mae hi wedi rhwyfo a hwylio ar draws y cefnforoedd bedair gwaith i godi arian at elusennau iechyd plant. Yn gynharach eleni, fel cyd-sylfaenydd Hyder Ventures, ymunodd â Phrifysgol Bangor i gyflwyno'r Hackathon Hyder cyntaf, gan fentora staff a myfyrwyr i ddatblygu mentrau arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau ym maes iechyd a'r amgylchedd.
Juno Dawson - Cyn-fyfyrwraig, awdures a sgrin-awdures Brydeinig - am gyfraniad at ddiwylliant, cerddoriaeth, iaith a’r celfyddydau yng Nghymru
Mae Juno Dawson yn awdures a sgrin-awdures Brydeinig a raddiodd mewn seicoleg o Brifysgol Bangor. Ar ôl graddio, dechreuodd ei gyrfa fel athrawes cyn sefydlu ei hun fel llais blaenllaw ym myd ffuglen i oedolion ifanc. Ei nofel gyntaf oedd Hollow Pike a dilynwyd hyn gan lyfrau sydd wedi ennill sylwadau clodwiw gan feirniaid llenyddol ynghyd â gwobrau di-ri, gan gynnwys Say Her Name, Clean, Meat Market. Daeth ei nofel gyntaf i oedolion, Her Majesty’s Royal Coven, ar frig rhestr y Sunday Times o’r nofelau sy’n gwerthu orau. Cydnabyddir ei gwaith am ei elfen storïol ddychmygus a’i archwiliad tringar o hunaniaeth, gwydnwch a chyfiawnder cymdeithasol. Caiff gweithiau ffeithiol Juno, This Book is Gay a What’s the T?, eu defnyddio'n helaeth fel adnoddau addysgol mewn ysgolion, llyfrgelloedd a sefydliadau cymorth LHDTC+ yn rhyngwladol. Mae hi hefyd yn newyddiadurwraig, darlledwraig, sgriptwraig ac eiriolwr cyhoeddus uchel ei pharch, y mae ei gwaith wedi cael dylanwad parhaol ar addysg gynhwysol, cynrychiolaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol.
Atul Devani - Cyn-fyfyriwr ac entrepreneur technoleg llwyddiannus ac arweinydd cyfalaf menter - am wasanaeth i Fusnes ac Entrepreneuriaeth
Mae Atul Devani yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, lle dyfarnwyd gradd BSc anrhydedd dosbarth cyntaf iddo mewn Peirianneg Electronig ym 1989. Mae wedi datblygu gyrfa nodedig fel entrepreneur technoleg, buddsoddwr ac arweinydd bwrdd ym meysydd telathrebu, meddalwedd, iechyd digidol a chyfalaf menter. Sefydlodd United Clearing plc, busnes cyfathrebu symudol arloesol oedd â buddsoddiadau arnawf ar y farchnad fuddsoddi amgen ac a brynwyd yn ddiweddarach, a bu ganddo swyddi gweithredol uwch mewn cwmnïau diwifr a thechnoleg byd-eang. Mae hefyd wedi cadeirio a gwasanaethu ar fyrddau nifer o Ymddiriedolaethau Cyfalaf Menter a restrir yn Llundain, gan gynnwys ei swydd bresennol fel Cadeirydd Foresight Ventures VCT plc, sy'n cefnogi busnesau yn y Deyrnas Unedig sy’n tyfu’n gyflym. Gwasanaethodd Atul fel Aelod annibynnol o Gyngor Prifysgol Bangor o 2020 i 2024 ac mae'n parhau i fod â chysylltiadau agos â'r Brifysgol fel Cyfarwyddwr M-SParc, parc gwyddoniaeth y Brifysgol, gan gyfrannu at arloesedd, menter a datblygiad economaidd yng Ngogledd Cymru.
Mair Wynn Hughes – Cyn-fyfyrwraig ac un o awduron plant mwyaf toreithiog ac annwyl Cymru sy’n sgrifennu yn Gymraeg – am gyfraniad at ddiwylliant, iaith, cerddoriaeth a chelfyddydau Cymru
Dechreuodd Mair Wynn Hughes, a fu’n gyn-athrawes ysgol ym Mhentraeth, Ynys Môn, ysgrifennu i fynd i'r afael â'r diffyg llyfrau Cymraeg i blant oedd ar gael i'w disgyblion. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf ym 1967. Dyna ddechrau ar greu corff sylweddol o waith, gan gyhoeddi mwy na 100 o straeon y mae cenedlaethau o blant wedi’u mwynhau gartref ac yn yr ysgol. Mae ansawdd ac apêl ei hysgrifennu wedi cael cydnabyddiaeth eang. Enillodd Wobr Tir na n-Og, y gwobrau hynaf am lenyddiaeth plant yng Nghymru, bedair gwaith a derbyniodd Wobr Mary Vaughan Jones Cyngor Llyfrau Cymru am ffuglen plant yn 2006. Yn 2021 cafodd ei nofel O'r Tywyllwch ei hailgyhoeddi yn y gyfres Gorau'r Goreuon, gan gydnabod ei gwerth llenyddol parhaol. Wedi'i geni a'i magu ym Mryncir a'i haddysgu yma ym Mangor yn yr hyn a elwid bryd hynny yn y Coleg Normal, mae hi wedi byw a gweithio ar hyd ei hoes yng Ngogledd Cymru. Yn 2023, yn 92 oed, cyhoeddodd Mair ei nofel gyntaf i oedolion, Y Bocs Erstalwm, gan ymestyn ymhellach waddol llenyddol nodedig.
Llion Jones - Hwyddonydd cyfrifiadurol ac ymchwilydd deallusrwydd artiffisial o Gymru – am ysgolheictod ac arloesedd rhagorol
Mae Llion Jones yn wyddonydd cyfrifiadurol y mae ei ymchwil wedi cael dylanwad mawr ar ddatblygiad deallusrwydd artiffisial modern. Roedd yn un o wyth peiriannydd Google a oedd yn gyfrifol am y papur nodedig a gyhoeddwyd yn 2017 Attention Is All You Need, a gyflwynodd y model dysgu dwfn Tranwsnewidiol ar gyfer prosesu iaith naturiol ac sydd bellach yn sail i lawer o systemau deallusrwydd artiffisial blaenllaw heddiw. Ar ôl ei gyfnod yn Google, cyd-sefydlodd Sakana AI yn Tokyo, lle mae'n parhau i arwain ymchwil arloesol i alluoedd deallusrwydd artiffisial yn y dyfodol. Cyfrannodd Llion at gynhadledd Digidol 24 yn M-SParc, parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, ac mae wedi dangos diddordeb brwd yng ngwaith tîm Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr y Brifysgol, yn enwedig ym maes datblygu technolegau iaith uwch ar gyfer y Gymraeg. Mae ei waith wedi helpu i lunio sut y gall deallusrwydd artiffisial resymu, ysgrifennu a chreu, gyda'r effaith yn cael ei theimlo ledled y byd, ac mae'n adlewyrchu cyfuniad o ymchwil flaenllaw ac ymgysylltiad parhaus â swyddogaeth gynyddol Cymru mewn arloesedd digidol.
Gwen Parry Jones OBE FREng – Cyn-fyfyrwraig sy’n flaenllaw yn sector niwclear y Deyrnas Unedig - am ysgolheictod ac arloesi eithriadol
Mae Gwen Parry-Jones yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd MA mewn Bancio, Yswiriant a Chyllid ym 1990, ac mae bellach yn arweinydd uwch yn y sector niwclear yn y Deyrnas Unedig. Hyd at fis Medi 2025, hi oedd Prif Swyddog Gweithredol Great British Energy – Nuclear, a bu cyn hynny yn Brif Swyddog Gweithredol Magnox Ltd. Yn gynharach yn ei gyrfa, roedd hi'n Gyfarwyddwr Datblygu Busnes yn Horizon, gan arwain gwaith i ddatblygu gorsafoedd ynni niwclear newydd yn Wylfa ac Oldbury. Dechreuodd Gwen eich gyrfa ym 1989 fel ffisegydd adweithyddion yn atomfa’r Wylfa, gan symud ymlaen i fod yn uwch reolwr ac yn aelod o’r bwrdd yn British Energy ac yn EDF Energy yn y Deyrnas Unedig a Chanada. Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn gyfarwyddwr gorsaf bŵer niwclear sifil yn y Deyrnas Unedig, yn Sizewell B, ac yn ddiweddarach hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn gyfarwyddwr yn Heysham 1. Mae Gwen yn Gymrawd o'r Sefydliad Ffiseg, yn Gymrawd er Anrhydedd o'r Sefydliad Niwclear ac yn Gymrawd o'r Academi Beirianneg Frenhinol. Gwen yw noddwr y fenter menywod yn y diwydiant niwclear, a dyfarnwyd OBE iddi am wasanaethau i wyddoniaeth a thechnoleg yn 2015.
Athro Stephen G Riley - Clinigydd ac arweinydd cenedlaethol mewn addysg feddygol - am gyfraniad at Wasanaeth Cyhoeddus
Mae'r Athro Stephen G Riley yn glinigydd uwch ac addysgwr meddygol y mae ei arweinyddiaeth wedi bod yn allweddol yn natblygiad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Fel Pennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, mae wedi darparu arweinyddiaeth genedlaethol uchel ei pharch mewn addysg feddygol, gan hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac arwain yr Ysgol o ddyfarniad Efydd Athena Swan i ddyfarniad Arian. Graddiodd a hyfforddodd Stephen yng Nghymru mae’n glinigydd sy’n parhau i ymarfer, gydag ymrwymiad hirdymor i'r Gwasanaeth Iechyd, atebolrwydd cymdeithasol a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae wedi bod yn ganolog i ddatblygiadau addysg feddygol gydweithredol rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor ers 2018, gan gynnwys y rhaglen Prentisiaethau Clinigol mewn Ardaloedd Gwledig a drefnir gan Brifysgol Caerdydd a’r cydweithrediad ar Gwricwlwm Gogledd Cymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae bellach yn Gadeirydd y Cyngor Ysgolion Meddygol sy'n hyrwyddo cydweithio rhwng Ysgolion Meddygol y pedair gwlad, y Gwasanaeth Iechyd a'r Llywodraeth mewn addysg ac ymchwil feddygol. Drwy bartneriaeth â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor ac arbenigwyr rhyngwladol, mae wedi helpu i lunio dull Cymru gyfan o ymdrin ag addysg feddygol gydag effaith barhaol ar gymunedau ledled Cymru a thu hwnt.
Philip Snow - Awdur ac artist bywyd gwyllt - Cyfraniad at ddiwylliant, iaith, cerddoriaeth a chelfyddydau Cymru
Mae Philip Snow yn artist ac awdur bywyd gwyllt uchel ei barch sydd wedi cyfrannu at gelf bywyd gwyllt, cadwraeth a dealltwriaeth gyhoeddus o'r byd naturiol yng Nghymru a thu hwnt. Ganwyd Philip yn Swydd Gaer, ac mae wedi byw ar Ynys Môn ers dros 40 mlynedd ac wedi gweithio fel artist proffesiynol ers dechrau'r 1980au. Mae wedi arddangos yn eang ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys mewn lleoliadau mawr yn Llundain a Chymru, ac mae ei waith i'w weld yng Nghasgliad Cenedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chynulliad Cymru, yn ogystal ag mewn llawer o gasgliadau preifat gan gynnwys casgliad y Brenin Siarl III. Mae wedi darlunio dros 80 o lyfrau ac wedi cyfrannu at fwy na 200 o gyhoeddiadau, gan gynnwys canllawiau mawr Collins. Mae Philip wedi cefnogi achosion cadwraeth yng Nghymru ers tro byd, gan gynnwys y Fenter Cadwraeth Gwiwerod Coch a Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor. Mae ei waith yn parhau i ysbrydoli dealltwriaeth a gofal am fywyd gwyllt a thirweddau.
Syr Terry Waite KCMG CBE - Dyngarwr ac awdur - am gyfraniad at Wasanaeth Cyhoeddus
Mae Syr Terry Waite KCMG CBE yn ddyngarwr ac yn awdur Prydeinig y mae ei fywyd a'i waith yn adlewyrchu dewrder, tosturi ac ymrwymiad eithriadol i wasanaethu. Am 22 mlynedd bu’n un o staff preifat Archesgob Caergaint a daeth yn adnabyddus am ei waith yn ceisio rhyddhau gwystlon yn y Dwyrain Canol. Cafodd ei gipio yn ystod un genhadaeth o'r fath, a threuliodd bron i bum mlynedd mewn cell ar ei ben ei hun - profiad a luniodd ei eiriolaeth gydol oes dros y rhai yr effeithiwyd arnynt gan wrthdaro. Ar ôl ei ryddhau, cyd-sefydlodd Hostage International a helpodd i sefydlu Emmaus for the Homeless yn y Deyrnas Unedig. Mae gan Syr Terry gysylltiadau cryf â Chymru a Phrifysgol Bangor. Ym mis Mehefin 2025 trafododd ei fywyd, cerddoriaeth a'r celfyddydau gyda Chadeirydd Cyngor y Brifysgol cyn perfformiad y Brifysgol o Breuddwyd Gerontius gan Elgar, sef y darn cyntaf o gerddoriaeth a glywodd ar ôl pum mlynedd yn wystl. Bu hefyd yn cyfrannu ers tro byd i fywyd diwylliannol a dinesig Cymru, gan gynnwys 15 mlynedd yn Llywydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Bydd Seremonïau Graddio’r Haf yn digwydd dros pum diwrnod, gan ddathlu llwyddiannau myfyrwyr o bob cwr o'r brifysgol ochr yn ochr â'r graddedigion er anrhydedd nodedig hyn.
Mae rhagor o wybodaeth am Seremonïau Graddio’r Haf ar gael yma.