Pwrpas y grant o £50,000 gan y rheoleiddiwr dŵr, Ofwat, yw mynd i'r afael â thagfa allweddol sy'n rhwystro’r gallu i fabwysiadu cynhyrchion a deunyddiau arloesol yn y sector dŵr oherwydd diffyg cyfleusterau profi.
Mae prinder cyfleusterau yn y Deyrnas Unedig sy'n gallu cynnal profion Rheoliad 31 llawn wedi'i nodi fel rhwystr i arloesi.
Mae Rheoliad 31 yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu ansawdd dŵr yfed drwy sicrhau bod deunyddiau a chynhyrchion a ddefnyddir mewn cysylltiad â dŵr yfed yn ddiogel cyn iddynt gael eu defnyddio yn y rhwydwaith dŵr.
Dros y tair blynedd diwethaf mae'r prinder cyfleusterau profi wedi creu amseroedd aros hir ar gyfer prosesau cymeradwyo ac adnewyddu newydd, yn ogystal ag ansicrwydd cost i gyflenwyr – gan effeithio yn y pen draw ar ba ddulliau arloesi y gall cwmnïau dŵr eu defnyddio.
Fel rhan o'r project, bydd Prifysgol Bangor yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid yn Dŵr Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Byddant yn archwilio eu datrysiad arfaethedig ymhellach ac yn datblygu cynlluniau cyflawni manwl, y camau sydd eu hangen i ddod â chapasiti profi newydd ar-lein, a sut y bydd eu cynigion yn integreiddio'n effeithiol i dirwedd ehangach y sector dŵr.
Dywedodd yr Athro Davey Jones, o’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, “Mae'r cyllid hwn yn gyfle gwych i Gymru chwarae rhan flaenllaw wrth ddatrys her sy'n wynebu sector dŵr cyfan y Deyrnas Unedig. Gan weithio gyda Dŵr Cymru a Phrifysgol Abertawe, byddwn yn tynnu ar arbenigedd go iawn yma yng Nghymru i helpu i ehangu capasiti profi, cyflymu’r broses o fabwysiadu dulliau arloesi diogel, a diogelu ansawdd dŵr yfed ar gyfer cymunedau yma ac ar draws y wlad."
Dywedodd Dr Jo Jolly, Cyfarwyddwr Arloesi, Ofwat, “Mae’r rhaglen hon wedi bod yn gyfle gwych i gydweithio â chydweithwyr yn yr Arolygiaeth Dŵr Yfed i fynd i’r afael â mater sy’n hollbwysig i’r sector. Drwy ysgogi’r gwaith o greu amrywiaeth o gyfleusterau profi, gyda gwahanol fodelau gweithredu a modelau masnachol, gallwn sicrhau bod gan y farchnad fynediad at y profion hanfodol sydd eu hangen i gymeradwyo dulliau arloesi newydd i'w defnyddio.”
Datblygwyd yr her mewn ymateb i adborth gan y sector bod capasiti profi Rheoliad 31 yn creu oedi ac ansicrwydd i gwmnïau ac arloeswyr. Drwy gefnogi dulliau newydd o brofi capasiti, nod y rhaglen yw helpu'r sector i fabwysiadu dulliau arloesi profedig yn gyflymach, gan gynnal y safonau uchel sy'n ofynnol i ddiogelu ansawdd dŵr yfed.
Cafodd cyfanswm o wyth rhaglen eu dewis drwy’r her Galluogwyr Gweithredu gyntaf a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’r Arolygiaeth Dŵr Yfed i gryfhau capasiti profi Rheoliad 31 y Deyrnas Unedig.
Mae her y Galluogwyr Gweithredu yn rhan o ‘Raglen Gweithredu Arloesi Dŵr’ Cronfa Arloesi Dŵr Ofwat, sydd wedi'i chynllunio i helpu i gael gwared ar rwystrau cyffredin sy'n atal dulliau arloesi profedig rhag cael eu mabwysiadu a'u chyflwyno ar draws y sector dŵr.
Mae'r Rhaglen Gweithredu Arloesi Dŵr yn cael ei chyflawni ar y cyd gan Ofwat ac Isle Utilities, gyda chefnogaeth gan Arup.
I ddysgu mwy am y rhaglen, ewch i’r dudalen hon.