Cronfa Bangor yn cefnogi menter llesiant ac adfyfyrio newydd, Schwarz Rounds, yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi llwyddo i lansio Schwartz Rounds, gan greu lle pwrpasol i fyfyrwyr adfyfyrio ar ochr emosiynol a dynol gofal iechyd. Wedi'i gyflwyno gyda chefnogaeth Cronfa Bangor, mae'r fenter hon eisoes yn cyfrannu at ddysgu, llesiant a datblygiad proffesiynol myfyrwyr.
Mae Schwartz Rounds yn fforymau rhyngwladol cydnabyddedig sy'n canolbwyntio ar agweddau emosiynol a pherthynol gofal trwy adrodd straeon a thrafodaeth wedi'i hwyluso. Yn wahanol i addysgu traddodiadol, maent yn darparu amgylchedd sy’n seicolegol ddiogel lle gall myfyrwyr archwilio tosturi, cyfathrebu a gwytnwch.
Daeth y Rownd gyntaf ar y thema “What Do You Say? Communicating in Difficult Moments,” â 73 o fyfyrwyr meddygaeth Blwyddyn 2 ynghyd ochr yn ochr â chlinigwyr a myfyrwyr hŷn i rannu straeon personol. Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol, gyda 94% yn nodi fod y sesiwn yn rhagorol neu eithriadol, a 91% yn cefnogi ei hintegreiddio i'r cwricwlwm.
Dywedodd Dr Nia Jones, Uwch Ddarlithydd / Deon Meddygaeth, a hwylusodd y sesiwn:
Roeddem wrth ein bodd yn derbyn cyllid gan Gronfa Bangor i gyflwyno Schwartz Rounds i’r Brifysgol, ac i gyflwyno’r sesiwn gyntaf yn llwyddiannus i’n myfyrwyr meddygaeth Blwyddyn 2. Roedd yn hynod werth chweil hwyluso Schwartz Round gyda grŵp mor ymgysylltiedig a derbyniol, a groesawodd y cyfle i adfyfyrio ar ochr ddynol gofal iechyd. Mae hwn yn gam cyntaf cyffrous, ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu Schwartz Rounds ar draws y Brifysgol, gan greu cyfleoedd pellach i fyfyrwyr a staff ddod at ei gilydd, rhannu profiadau, a meithrin diwylliant o dosturi, adfyfyrio, a llesiant.
Mae Schwartz Rounds ar fin dod yn gonglfaen addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor, gan feithrin cysylltiad wrth wraidd dysgu.
Mae Cronfa Bangor yn dibynnu ar roddion gan gyn-fyfyrwyr, a chaiff ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Prif ddiben y gronfa yw darparu elfen ychwanegol at brofiad myfyrwyr.