Mae ei gwaith yn cynnwys dylunio, gweithredu, gwerthuso a chynyddu ymyriadau i atal trais yn erbyn plant ac i hyrwyddo datblygiad plant ifanc yn y cartref ac yn yr ysgol mewn gwledydd incwm isel ac incwm canolig.
Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio gydag UNICEF Jamaica, y Comisiwn Plentyndod Cynnar (ECC) yn Jamaica, a thîm Irie Toolbox i ehangu'r Irie Homes Toolbox ledled Jamaica, trwy ei integreiddio i wasanaethau rhianta arferol y Comisiwn Plentyndod Cynnar ar lefel genedlaethol.
Datblygwyd yr Irie Homes Toolbox gan Helen a'i myfyriwr PhD (myfyriwr ôl-ddoethurol bellach) – Dr Taja Francis, yn Jamaica. Yr wythnos diwethaf, hyfforddwyd saith Swyddog Cysylltiadau Cymunedol, pum swyddog hyfforddi a Rheolwr Cysylltiadau Cymunedol y Comisiwn Plentyndod Cynnar yn y rhaglen. Darparwyd hyfforddiant gan dri aelod o dîm Irie Toolbox: Dr Taja Francis, Mrs Marsha Bowers a Helen.
Dywedodd Helen, “Rhaglen rhianta yw’r Irie Homes Toolbox sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cefnogi rhieni i ddarparu amgylchedd cartref gofalgar, ysgogol, diogel a sicr i'w plant ifanc. Rydym wrth ein bodd yn parhau â'n cydweithrediad agos â'r Comisiwn Plentyndod Cynnar ac UNICEF Jamaica, fel y gallwn, gyda'n gilydd, ymestyn cyrhaeddiad y rhaglen i fod o fudd i fwy a mwy o deuluoedd dros amser.”
Gwyliwch fideo’r Comisiwn Plentyndod Cynnar am yr hyfforddiant yma.