Mae siarad Cymraeg yn gysylltiedig â pherthynas gryfach â natur, yn ôl ymchwil newydd sy'n edrych ar y berthynas rhwng iaith, hunaniaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd naturiol ledled Cymru.
Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored Cogent Arts & Humanities, yn seiliedig ar arolwg cenedlaethol cynrychioliadol ar sampl o 2,000 o ymatebwyr ledled Cymru, gyda chymysgedd o alluoedd ieithyddol.
Mae'r canfyddiadau'n datgelu bod pobl sy'n nodi eu bod yn siarad Cymraeg yn dangos cysylltiad 15.7% cryfach â natur na phobl nad ydynt yn siarad Cymraeg, hyd yn oed ar ôl ystyried ffactorau gan gynnwys oedran, rhyw, grŵp economaidd-gymdeithasol a rhanbarth.
Gofynnodd yr ymchwil a yw bod yn siaradwr Cymraeg yn gysylltiedig â pherthynas â'r amgylchedd naturiol ac ymlyniad i le, a sut mae pobl yng Nghymru yn canfod y berthynas rhwng yr iaith a'r dirwedd o'u cwmpas.
Canfu'r ymchwilwyr fod y Gymraeg, fel iaith leiafrifol, yn cysylltu ei siaradwyr yn agos â'u hamgylchedd lleol, eu treftadaeth ddiwylliannol a'u hanes, sy'n cryfhau eu hymlyniad i le. Maent yn nodi na all yr arolwg ddangos pam mae'r cysylltiad yn bodoli. Gall hunaniaeth ddiwylliannol gyffredin, y cysyniadau sy’n rhan o’r iaith ac enwau lleoedd Cymraeg sy'n llawn ystyr, patrymau preswylio gan gynnwys mynediad at dirwedd neu ffactorau eraill i gyd chwarae rhan.
Roedd siaradwyr Cymraeg 38% yn fwy tebygol na’r di-Gymraeg o gytuno bod y Gymraeg yn gysylltiedig â'r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Gwnaethant hefyd adrodd am deimlad cryfach o gysylltiad â natur wrth ddefnyddio'r Gymraeg ac wrth weld enwau lleoedd Cymraeg.
Canfu'r astudiaeth hefyd nad yw trigolion di-Gymraeg Cymru yn tueddu i weld iaith fel rhywbeth arwyddocaol i'w perthynas â natur, er ei bod yn ymddangos yn bwysig i siaradwyr Cymraeg.
Meddai Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, a arweiniodd yr ymchwil gyda chydweithwyr o Ysgol Gwyddorau Naturiol Bangor, Prifysgol Reading a Phrifysgol Caergrawnt:
“Mae’r astudiaeth hon wedi cadarnhau’r hyn a awgrymwyd gan brofiad ac arsylwadau anffurfiol, gan gynnwys gwaith y Map Cyhoeddus - a oedd wrth wraidd y syniad. Rydym yn falch iawn o weld canlyniadau mor glir o'n hastudiaeth gynrychioliadol.
Mae gan y canfyddiadau oblygiadau hefyd i addysg yng Nghymru, yn enwedig wrth i gynaliadwyedd ddod yn rhan gynyddol bwysig o'r cwricwlwm. Gallai cysylltu dysgu’r iaith Gymraeg â’r amgylchedd naturiol, enwau lleoedd lleol a thraddodiadau diwylliannol wneud dysgu iaith yn fwy perthnasol i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn newid amgylcheddol.”
Mae'r ymchwil yn rhan o waith y Map Cyhoeddus, project sy'n cefnogi cymunedau ar Ynys Môn i gyd-greu mapiau digidol sy’n cofnodi’r hyn sy’n bwysig iddynt am eu hardaloedd lleol. Nod y project yw cefnogi cynllunio lleol, datblygu polisïau rhanbarthol a newidiadau i greu ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw. Mae cyfraniad Prifysgol Bangor yn tynnu sylw at ran allweddol yr iaith Gymraeg mewn cymunedau lleol yng ngogledd Cymru.
Mae'r papur, “How a minority language relates to place attachment and nature connection: the case of Welsh”, ar gael trwy fynediad agored yn https://doi.org/10.1080/23311983.2026.2735719