Mae Grant Teithio Tramor Wartski, sy’n cael ei ariannu trwy haelioni ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd gan Isidore a Winifred Marie Wartski, yn gyfle gwych i fyfyrwyr Prifysgol Bangor wella eu haddysg trwy deithio tramor. Mae'r grant bwysig hon yn adlewyrchu treftadaeth falch y teulu Wartski, sydd wedi ei gwreiddio yn ei chysylltiad hanesyddol â’r Wartski Jewellers gwreiddiol ym Mangor ac sy’n parhau trwy’r Wartski Jewellers sydd erbyn hyn wedi eu lleoli yn Llundain. Bob blwyddyn academaidd, dewisir un myfyriwr o bob coleg i dderbyn y wobr hon, gan eu galluogi i ehangu eu gorwelion academaidd a chael profiadau gwerth chweil dramor.
Yn ddiweddar, rhannodd tri myfyriwr doethurol eu straeon am sut y cefnogodd Grant Teithio Tramor Wartski eu teithiau ymchwil yn 2025. Trwy’r cyllid hael hwn, cawsant ehangu eu hymchwil y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig, cydweithio ag arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw, ymgolli mewn amgylcheddau newydd a chryfhau eu datblygiad academaidd a phroffesiynol. Mae eu straeon yn tynnu sylw at effaith drawsnewidiol ysgolheictod byd-eang ac yn dangos sut mae'r grant yn parhau i agor drysau, dyrchafu ymchwil a grymuso myfyrwyr Prifysgol Bangor i wneud cyfraniadau ystyrlon at eu meysydd.
Ymchwil Maes yn Borneo Malaysia gyda Chymorth Grant Teithio Tramor Wartski
Mae Harry Searle-Webb, myfyriwr Meistr trwy Ymchwil (MScRes) yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ac Amgylcheddol, wedi cwblhau taith maes llwyddiannus yn Borneo Malaysia gyda chefnogaeth gan Grant Teithio Tramor Wartski. Mae gan Harry, a gwblhaodd ei radd BSc mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg ym Mangor, ddiddordeb mawr mewn ymlusgiaid ac amffibiaid ac mae ganddo ymrwymiad cynyddol i ymchwil cadwraeth.
Galluogodd y fwrsariaeth i Harry ymgymryd â gwaith maes hanfodol i’w broject MScRes ar systemateg a thacsonomeg y fadfall wyrdd gribog (Bronchocela cristatella) yn Sabah, Malaysia. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Universiti Malaysia Sabah, bu’n arolygu pum safle ar draws graddiant uchder eang, o gynefinoedd mewn fforestydd glaw isel i goedwigoedd uchel. Y nod oedd lleoli poblogaethau mewn mannau uchel a welir yn anaml a allai gynrychioli rhywogaeth fynyddig benodol - ac sydd o bosib dan fygythiad mawr. Roedd y gwaith maes ym mynyddoedd Crocker yn heriol, gyda'r rhywogaeth darged yn brin ac yn dueddol o gysgu'n uchel yn y canopi. Ar ôl mis o arolygon dwys dros nos, llwyddodd Harry i gasglu samplau o bron bob safle, gan gynnwys darganfyddiad annisgwyl o fadfall yr iseldir a madfall fynyddig yn cysgu ar yr un goeden - gan gynhyrchu deunydd genetig arbennig o werthfawr. Ar y cyfan, casglwyd 15 o samplau a byddant yn cael eu defnyddio i asesu perthnasoedd esblygiadol ar draws parthau uchder.
Disgrifiodd Harry'r profiad fel un a oedd yn werthfawr yn wyddonol ac yn drawsnewidiol yn broffesiynol. Trwy gydweithio'n agos ag ymchwilwyr lleol, bu iddo gryfhau ei sgiliau tacsonomegol, ehangu ei rwydwaith proffesiynol a chael profiad uniongyrchol o ymarferoldeb ymchwil ryngwladol - megis ymdrin â thrwyddedau, datblygu methodolegau maes ac addasu i amgylcheddau ecolegol newydd. Nododd y bydd y sgiliau hyn yn hanfodol yn ei yrfa academaidd yn y dyfodol. Wrth sôn am y cyfle, dywedodd Harry fod Grant Teithio Tramor Wartski wedi gwneud y gwaith maes hwn yn bosib ac wedi annog myfyrwyr eraill i wneud cais am gynlluniau tebyg: "Gall cais sydd wedi ei baratoi'n dda agor drysau i brofiadau ymchwil sy'n newid bywydau.Mae'r amser mae’n ei gymryd yn gwbl werth chweil."
Ymchwilydd o Fangor yn cymryd rhan yn yr International Sociology of Law Conference yn Rabat, Moroco
Mae Ann Monnereau, ymchwilydd doethuriaeth yn Ysgol y Gyfraith, wedi datblygu ei hymchwil i gyfiawnder diwylliannol ac eiddo deallusol yn sylweddol ar ôl cael Grant Teithio Tramor Wartski. Galluogodd y cyllid iddi gymryd rhan yng nghyfarfod blynyddol y Research Committee on the Sociology of Law yn Rabat, Moroco (6-11 Gorffennaf 2025), un o'r prif gynulliadau rhyngwladol ar gyfer ysgolheictod cymdeithaseg-cyfreithiol. Cyfrannodd ei thaith yn uniongyrchol at gyflwyno traethawd doethurol llwyddiannus.
Mae ei hymchwil yn archwilio sut mae fframweithiau cyfreithiol yn llunio arferion creadigol yn enwedig ym maes cerddoriaeth a sut gall y systemau hyn adlewyrchu anghydraddoldebau hanesyddol, diwylliannol ac economaidd dyfnach. Trwy herio dealltwriaeth orllewinol o awduraeth, mae ei gwaith yn ceisio ehangu dadleuon am eiddo deallusol i gynnwys traddodiadau creadigol cyfunol a llafar a rhai sydd wedi eu hymgorffori'n ddiwylliannol.
Yn ystod y gynhadledd, cyflwynodd astudiaeth gymharol ar ddiogelu hawlfraint yn Ffrainc a Moroco, gan dynnu sylw at anghydraddoldebau yn y ffordd y caiff gweithiau artistig eu trin rhwng cyn-wladychwyr a chyn-drefedigaethau. Ysgogodd y cyflwyniad drafodaeth gynhyrchiol gydag ysgolheigion sy'n gweithio ar draws y gyfraith, diwylliant ac ‑astudiaethau ôl-drefedigaethol, gan gyfoethogi ei dadansoddiad ymhellach.
Bu ymgysylltu’n uniongyrchol ag academyddion ac arbenigwyr cyfreithiol ym Moroco yn arbennig o werthfawr. Galluogodd y sgyrsiau hyn iddi ehangu cwmpas ei hymchwil ac integreiddio safbwyntiau deheuol a oedd wedi eu tangynrychioli yn ei gwaith o'r blaen. Cryfhaodd y profiad ei dadleuon, ehangodd ei dealltwriaeth ddiwylliannol a chynyddodd ei hyder wrth iddi gwblhau ei gradd. Ar y cyd â'r manteision academaidd, cynigiodd yr ymweliad gyfleoedd i ddarganfod treftadaeth ddiwylliannol fywiog Moroco, gan gynnwys souks, amgueddfeydd a thirweddau arfordirol.
Gwobr Teithio Tramor Wartski yn Gwella Ymchwil Bangor ar Flinder Meddyliol
Mae myfyriwr doethuriaeth Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, Thipkanlaya Jaiaue, wedi datblygu ei gwaith ar benderfynyddion blinder meddyliol diolch i gefnogaeth gan Wobr Teithio Tramor Wartski, a’i galluogodd i gyflwyno ei chanfyddiadau mewn dwy gynhadledd ryngwladol fawr yn ystod un daith ymchwil.
Mae project Thipkanlaya yn ymchwilio i sut mae blinder meddyliol yn datblygu yn ystod tasgau heriol, yn enwedig y rhan a chwaraeir gan reolaeth wybyddol ac addasiadau amser real o ran anhawster tasgau. Mae ei hymchwil yn cyflwyno protocol addasol arloesol sy'n ymateb yn awtomatig i berfformiad cyfranogwyr - gan helpu gwahaniaethu rhwng blinder meddyliol a chyflyrau cysylltiedig fel diflastod a darparu dull mwy dilys yn ecolegol i astudio perfformiad mewn amgylcheddau pwysau uchel gan gynnwys chwaraeon, y gwasanaethau brys a gweithrediadau milwrol.
Gyda chefnogaeth gan Grant Wartski, rhoddodd gyflwyniad llafar yn y 30th European College of Sport Science Annual Congress (ECSS 2025) yn Rimini, yr Eidal, ac yna cyflwyniad poster yn y 30th European College of Sport Science Annual Congress (ECSS 2025) yn Krakow, Gwlad Pwyl. Roedd cyflwyno yn y ddwy gynhadledd yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i gael adborth, meithrin trafodaeth ryngddisgyblaethol ac arddangos cyfraniad cynyddol Prifysgol Bangor at ymchwil mewn gwyddor chwaraeon a seicoffisioleg.
Chwaraeodd y wobr ran bwysig hefyd yn natblygiad proffesiynol Thipkanlaya. O ganlyniad i ymgysylltu ag ymchwilwyr rhyngwladol, ehangodd ei rhwydwaith academaidd, agorodd gyfleoedd cydweithio newydd a chryfhaodd welededd ei gwaith ar y llwyfan byd-eang. Mae hi bellach yn paratoi llawysgrifau yn seiliedig ar yr astudiaethau a gyflwynwyd ac yn bwriadu cynnig mynediad agored at dasgau gwybyddol addasol y project i gefnogi atgynhyrchu a hyrwyddo ymrwymiad Prifysgol Bangor i wyddoniaeth agored.
Wrth sôn am effaith y fwrsariaeth, diolchodd Thipkanlaya yn ddiffuant amdani, gan nodi bod y grant wedi gwella ansawdd a gwelededd ei hymchwil yn sylweddol, ac wedi darparu cyfleoedd a fydd yn parhau i lunio ei datblygiad fel ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa.
Myfyriwr yn Cyflwyno ei Hymchwil mewn Dwy Gynhadledd Ryngwladol Fawr