Fis diwethaf, bu i’r Ysgol Seicoleg ddechrau cyfres newydd o ddarlithoedd cyhoeddus, a wnaed yn bosibl diolch i rodd hael gan y cyn-fyfyriwr John Shrigley (Seicoleg, 1974), gan alluogi'r Ysgol i groesawu arbenigwyr blaenllaw a rhannu ymchwil arloesol gyda chynulleidfa ehangach.
Traddodwyd y ddarlith gyntaf, Drawing as a Tool of Learning, gan Dr Rebecca Chamberlain, darlithydd yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, a gyflwynodd ymchwil ar luniadu fel system fodel ar gyfer deall artistiaid a phobl sy’n dirnad celf. Dangosodd ei sgwrs sut y gall dull seicolegol o luniadu ddyfnhau dealltwriaeth o brosesau artistig a'r bobl y tu ôl iddynt. Drwy bontio celf a gwyddoniaeth, dangosodd sut mae mecanweithiau gwybyddol a chanfyddiadol yn dylanwadu ar fynegiant creadigol.
Cynhaliwyd y ddarlith gan Dr Awel Vaughan-Evans, sy’n Ddarllenydd mewn seicoleg, ac roedd yn cyd-fynd yn agos a’r hyn mae’r Ysgol yn ei ddysgu, gan gynnwys modiwl y drydedd flwyddyn Harddwch a'r Ymennydd / Beauty and the Brain, a gyflwynir yn ddwyieithog.
Dywedodd yr Athro Paul Downing, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg,
Roedd sgwrs Dr Chamberlain yn gyfuniad perffaith o wyddoniaeth gadarn, gan dynnu ar nifer o ddulliau a ffyrdd o fynd ati, gydag enghreifftiau hawdd eu deall a pherthnasol i’r gynulleidfa gyffredinol. Rydym yn ddiolchgar iawn am waddol John Shrigley sydd wedi cefnogi lansio'r gyfres newydd hon.
Mae recordiad o'r ddarlith gyhoeddus ar gael i'w gwylio ar-lein.