Blwyddyn astudio a theitl y cwrs
Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, Blwyddyn 3
Ble oedd eich lleoliad, ac am ba mor hir oeddech ar leoliad?
Es ar leoliad i Ganolfan Arloesedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn M-SParc. Roeddwn yno o Hydref 24 - Mawrth 25.
Pa fath o waith a wnaethoch yn ystod eich lleoliad?
Cymerais ran mewn amrywiaeth o bethau, gan gynnwys mynd i gynhadledd i helpu i godi ymwybyddiaeth am y project, cynnal ymchwil marchnad ac adolygiad llenyddiaeth, cynllunio astudiaeth arbrofol, a llunio adroddiad dros dro. Roedd yn gymysgedd da o waith ymchwil a gwaith ymarferol.
Pa sgiliau neu wybodaeth o'ch gradd y gwnaethoch eu defnyddio?
Defnyddiais gryn dipyn o fy ngradd, yn enwedig o amgylch dulliau ymchwil, meddwl beirniadol, a deall egwyddorion gwyddor chwaraeon. Daeth y sgiliau o fodiwlau megis dadansoddi data ac ysgrifennu gwyddonol yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig wrth lunio'r adroddiad a chynllun yr astudiaeth.
Beth oedd y peth mwyaf gwerthfawr y gwnaethoch ei ddysgu?
I mi, roedd dysgu sut i gymhwyso'r hyn rydw i wedi'i astudio mewn lleoliad byd go iawn yn hynod werthfawr. Roedd bod yn rhan o broject byw a gweld sut mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio y tu allan i'r brifysgol yn brofiad gwych. Roedd hefyd yn gyfle i mi brofi pwysigrwydd cyfathrebu a gweithio fel rhan o dîm.
A wnaethoch wynebu unrhyw heriau, a sut y buoch yn eu goresgyn?
Do, roedd cydbwyso ochr academaidd y lleoliad gyda'r gwaith ymarferol braidd yn anodd ar adegau. Des drwyddi trwy aros mewn cysylltiad rheolaidd â fy ngoruchwyliwr prifysgol a'r mentor lleoliad, a oedd yn fy helpu i aros ar y trywydd iawn a rheoli disgwyliadau ar y ddwy ochr.
I ba raddau oedd eich prifysgol eich cefnogi cyn ac yn ystod y lleoliad?
Roedd y gefnogaeth yn berffaith. Cyn y lleoliad, cawsom sesiynau paratoi a oedd yn helpu gyda'r cynllunio, ac yn ystod y lleoliad, roeddwn yn gwybod y gallwn gysylltu â fy ngoruchwyliwr pe bai angen unrhyw beth arnaf. Roedd hynny'n bendant yn gwneud pethau'n llai o straen.
A yw eich lleoliad wedi dylanwadu ar eich nodau gyrfa?
Yn bendant. Mae bod yn rhan o rywbeth arloesol wedi rhoi blas i mi o'r hyn yr hoffwn fod yn rhan ohono yn y tymor hir. Rwyf hefyd yn gwybod gyda sicrwydd llwyr mai ymchwil yw'r llwybr gyrfa i mi.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i ddarpar fyfyrwyr sydd ar leoliad?
Ewch gyda meddwl agored ac ewch i’r afael â phopeth heb oedi. Po fwyaf y byddwch yn cymryd rhan ynddo, y mwyaf y byddwch yn ei ddysgu. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau neu rannu eich syniadau, mae lleoliadau’n gyfle gwych i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol.