Gwahodd Busnesau Cymru i lunio dyfodol mabwysiadu deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol
Mae busnesau bach a chanolig (SMEs) Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil newydd sy'n archwilio sut mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Gen-AI) yn cael ei ddefnyddio neu ei ystyried ar hyn o bryd o fewn busnesau ledled Cymru.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Dr Fariba Darabi yn Ysgol Fusnes Albert Gubay Prifysgol Bangor, gan weithio gyda’r Athro Michael Butler a Dr Junyu Zhou, mewn partneriaeth ag M-SParc ac wedi’i ariannu drwy gynllun SMART FIS Llywodraeth Cymru.
Nod yr ymchwil yw sicrhau bod busnesau Cymru yn derbyn y gefnogaeth, y sgiliau a’r canllawiau cywir i fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn ffordd ymarferol, gyfrifol ac effeithiol. Bydd canfyddiadau’r arolwg yn helpu i lunio cynlluniau arloesi, rhaglenni datblygu sgiliau a chyfeiriad polisi yn y dyfodol ledled Cymru.
Meddai Dr Fariba Darabi, o Brifysgol Bangor, “Bydd y prosiect yn darparu’r sail ar gyfer creu cynlluniau arloesi a datblygu sgiliau Gen-AI yn y dyfodol ar draws gwahanol ddiwydiannau mewn SMEs yng Nghymru. Bydd y cynlluniau arloesi hyn yn cynyddu ein gallu a’n capasiti i allu gweithio gyda SMEs a’u cefnogi i wneud y defnydd gorau o Gen-AI. Bydd canlyniad yr holiadur hefyd yn helpu i lunio map ffordd i gefnogi a llywio cyfeiriad strategol Canolfan Ymchwil Rhanbarth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, ac M-SParc a strategaeth AI Llywodraeth Cymru wrth gefnogi mabwysiadu Gen-AI mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru.”
“Meddai Yr Athro Michael Butler, o Brifysgol Bangor, Mae ein Prosiect Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol arloesol yn dangos Prifysgol Bangor ar ei gorau. Rydym yn mynd i’r afael ag un o bynciau pwysicaf ein hoes i helpu busnesau bach a chanolig i elwa o newid technolegol. Dim ond trwy gydweithrediad aml-bartner y gellir cyflawni hyn: Canolfan Rhanbarth ar gyfer Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy Ysgol Fusnes Albert Gubay, M-SParc a Llywodraeth Cymru.”
Mae M-SParc yn chwarae rhan allweddol wrth gysylltu’r ymchwil hon â busnesau ledled Cymru, gan ddefnyddio ei ecosystem, ei rwydweithiau a’i brofiad o gefnogi busnesau bach a chanolig sy’n cael eu harwain gan arloesedd.
Meddai Olwen Davies, Rheolwr Contractau a Masnachol yn M-Sparc, “Rydym wrth ein bodd yn cydweithio ar y prosiect ymchwil pwysig hwn. Yn M-SParc, ein rôl ni yw cysylltu arloesedd ag anghenion busnes go iawn. Drwy symud ein hecosystem a’n rhwydweithiau cenedlaethol, rydym am sicrhau bod gan fusnesau bach a chanolig o bob cwr o Gymru y cyfle i gyfrannu eu profiadau a helpu i lunio cefnogaeth AI yn y dyfodol mewn ffordd sy’n ymarferol, yn berthnasol ac yn effeithiol.”
Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar weithgarwch ehangach M-SParc mewn Deallusrwydd Artiffisial, gan gynnwys:
- cynnal arddangosfeydd a chynadleddau sy’n dod ag arbenigwyr ac amheuwyr AI ynghyd
- lansio egni.ai, cyfrifiannell allyriadau carbon sy’n cael ei phweru gan AI ar gyfer busnesau bach a chanolig
- cyflwyno gweithdai AI a chymorth busnes
- datblygu offer AI fel adolygwr a dadansoddwr ‘prompts’
- recriwtio arbenigwyr busnes AI i gefnogi rhaglen Busnes Cymru
Anogir busnesau bach a chanolig Cymru i gwblhau’r holiadur byr ar-lein erbyn 15 Chwefror 2026 drwy glicio yma.
Mae rhagor o gyd-destun ar gydweithrediadau ymchwil AI blaenorol rhwng Prifysgol Bangor ac M-SParc i’w gael yma.