Mae Seren Cyf. yn darparu cymorth 24 awr drwy ofal personol, hyfforddiant, a chyfleoedd cyflogaeth. Yn ddiweddar sicrhaodd gyllid grant i weithio â mentor yn y brifysgol i ddatblygu meysydd allweddol yn eu gwaith. Mae’r cydweithio wedi helpu’r elusen i fabwysiadu dull mwy strategol o weithio yn ystod blwyddyn arwyddocaol iddyn nhw.
Gan weithio’n agos â darlithydd a mentor yn yr Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, Carl Mather, mae Seren wedi datblygu ei strategaeth a’i chynllun marchnata. Maen nhw hefyd wedi derbyn cyngor ar sut i wella eu sgiliau cyfathrebu, sy’n cynnwys deunyddiau cyflwyno a chynllunio cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd y Prif Weithredwr, Angela Middleton Jones, fod y sefydliad wedi cydnabod ers tro bod angen iddynt flaenoriaethu eu cynllun marchnata:
“Fel tîm rheoli bach, mae bob amser yn dda i ni gael persbectif ffres. Rydym yn aml yn cael ein tynnu o un dasg i’r llall, felly mae derbyn adborth o du allan y sefydliad yn hynod o werthfawr i ni,” meddai.
“Roeddem yn gwybod bod angen canolbwyntio ar farchnata, ond roedd dod o hyd i’r amser a gwybod ble i ddechrau yn her. Felly, er bod pwysau i greu cynllun marchnata, nid oeddem yn siŵr sut i ddechrau na beth i’w gynnwys. Roeddem mor brysur gyda’r gwaith o ddydd i ddydd, roedd yr ochr hirdymor o’n gwaith yn cael ei ohirio’n gyson. Rhoddodd y cymorth hwn strwythur a chyfeiriad i ni, gan ein helpu i symud yn gyflym o syniadau i weithredu.”
Mae’r bartneriaeth hefyd wedi helpu i lunio dathliadau 30 mlynedd Seren, drwy gynorthwyo’r tîm i ddatblygu syniadau ar gyfer rhaglen weithgareddau blwyddyn gyfan ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i unigolion ddatblygu sgiliau wrth gyfrannu at waith yr elusen.
“Rydym wedi symud o weithio o ddydd i ddydd, i weithio’n fwy strategol a phroffesiynol gan gynllunio ein gwaith dros amser hir. Helpodd ein mentor Carl ni i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig a throi syniadau yn gamau ymarferol. Mae wedi ein helpu i sylweddoli bod popeth a wnawn yn werth dathlu.”
Wrth fyfyrio ar effaith ehangach y rhaglen, dywedodd Angela: “Byddwn yn annog unrhyw sefydliad bach i dderbyn cefnogaeth a chydweithio â’r brifysgol. Gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol os oes gennych rywbeth penodol mewn golwg. Mae hefyd yn hanfodol bod darlithwyr yn cadw mewn cysylltiad â gofynion y diwydiant, gan eu bod yn arwain darpar weithwyr i’r byd gwaith drwy eu haddysgu. Mae’n rhaid iddynt aros yn gyfredol â disgwyliadau ac anghenion y diwydiant.”
Roedd Carl Mather, Darlithydd mewn Busnes a Marchnata ym Mhrifysgol Bangor, hefyd wedi mwynhau cydweithio â Seren Cyf.: “Roedd Seren yn bartner gwych gan eu bod yn agored i ailfeddwl eu dull o farchnata a chyfathrebu’n llwyr. Roedd hyn yn golygu datblygu cynlluniau, prosesau a llwyfannau, yn ogystal â rhyddhau creadigrwydd ac arloesedd ym mhob agwedd o’u gweithgareddau. Mae gan Seren stori wych i’w hadrodd, a gwasanaethau a chymorth hanfodol i’w cynnig - mae rhoi cymorth iddynt fynegi hynny’n fwy effeithiol yn werthfawr iawn mewn sawl ffordd.”
Mae Carl hefyd yn credu ei bod hi’n hanfodol bod staff academaidd yn adeiladu ac yn cryfhau perthnasoedd â sefydliadau ar draws sectorau yn y rhanbarth, meddai: “Mae hyn yn sicrhau bod cynnwys academaidd yn cael ei ategu gan brofiadau a chyfleoedd cyfredol o’r byd go iawn - mae’r ddwy ochr yn elwa o hyn.”
Dywedodd Nicola Sturrs, Rheolwr Datblygu Busnes ym Mhrifysgol Bangor: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cydweithio â Seren Cyf., mae’r gwaith mae’r tîm yn ei wneud fel elusen yn gwbl wych ac rwy’n eu llongyfarch ar eu pen-blwydd yn 30 oed. Yn anffodus, mae ein Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi yn dod i ben ym mis Mai, hoffwn ddiolch i’r holl fusnesau sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Sir y Fflint.”
Mae project Seren Cyf. ac Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi derbyn £5000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn cefnogi’r y gwaith o gyflawni pum cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth y DU: rhoi grym i’n cymunedau ym mhobman, gyda ffocws penodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.