Uwch Ddarlithydd o Brifysgol Bangor yn derbyn gwobr am hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymarfer addysgu
Mae uwch ddarlithydd o Brifysgol Bangor wedi derbyn gwobr fawreddog gan y British Academy of Management (BAM) am gefnogi a hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymarfer addysgu.
Mae Dr Fariba Darabi, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, wedi derbyn Medal BAM am Ddatblygu Gwybodaeth. Dyfernir y fedal hon i aelod o’r academi am gyfraniad parhaus a rhagorol at ddatblygu a lledaenu gwybodaeth a dysg o ran rheolaeth.

Cafodd Fariba ei chydnabod am ei chyfraniad at rannu gwybodaeth a dysg am ymarfer addysgu yn y maes, a chefnogi academyddion busnes a rheolaeth. Ymunodd â Phrifysgol Bangor yn 2023, a chyn ymuno â'r byd academaidd yn 2008, roedd ganddi yrfa lwyddiannus mewn busnes rhyngwladol yn gweithio i amrywiaeth o gwmnïau, gan gynnwys busnesau bach a chanolig a chwmnïau rhyngwladol.
Dywedodd Fariba, “Mae’n anrhydedd ac yn fraint i dderbyn Medal BAM am Ddatblygu Gwybodaeth. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn arwyddocaol i mi gan ei bod yn dathlu fy nghyfraniad at gefnogi a hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymarfer addysgu. Addysgu yw fy mhrif ddiben o ran gweithio yn y byd academaidd, ac mae addysgu’n flaenoriaeth fawr i BAM a'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu.
“Diolch o galon i bawb a’m cefnogodd ar hyd y daith hon, ac i gymuned BAM am y gydnabyddiaeth. Hoffwn gyflwyno'r fedal hon fy niweddar Fam a oedd yn eiriolwr dros addysg ac am ei ysbrydoliaeth a’i hanogaeth”.