Ysgol Fusnes Albert Gubay yn dathlu llwyddiant graddedigion ym Mhrifysgol Bangor
Bu diwrnod balch iawn ym Mhrifysgol Bangor wrth i Ysgol Fusnes Albert Gubay ddathlu llwyddiant myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a PhD mewn seremoni raddio ar y campws.
Daeth y digwyddiad â myfyrwyr, staff a chefnogwyr ynghyd i gydnabod llwyddiant ar bob lefel o astudio, yn ogystal â thynnu sylw at y perfformiadau eithriadol a welwyd drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Fel rhan o’r dathliadau, cynhaliodd yr Ysgol seremoni wobrwyo israddedig i gydnabod cyflawniadau unigol rhagorol. Cefnogwyd y seremoni gan gynrychiolwyr o gyrff proffesiynol blaenllaw, a oedd yn bresennol i gyflwyno gwobrau i fyfyrwyr. Ymhlith y rhain roedd Lisa Madariaga o Gymdeithas Cyfrifwyr Siartredig Lerpwl (LSCA), Amy Lord o Gymdeithas Cyfrifwyr Siartredig De Cymru (SWSCA), a Sophie Bennett o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI).
Roedd eleni hefyd yn garreg filltir bwysig i’r Ysgol, gyda’r garfan gyntaf o raddedigion dyfarniad deuol CMI. Enillodd y myfyrwyr achrediad deuol ochr yn ochr â’u gradd drwy raglenni Lefel 5 a Lefel 7, gan sicrhau cymhwyster proffesiynol ychwanegol sy’n cryfhau eu cyflogadwyedd a’u cymwysterau arwain.
Roedd y diwrnod yn adlewyrchu ymroddiad, uchelgais a gwydnwch y myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, yn ogystal â’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n nodweddu Ysgol Fusnes Albert Gubay.
Mae Prifysgol Bangor yn llongyfarch ei holl raddedigion ar eu llwyddiannau ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfaoedd.