Bydd awduron Mindfulness: The Basics yn cynnal digwyddiad lansio ar-lein rhwng 12:30 a 13:30, lle byddant yn cyflwyno'r llyfr ac yn mynd i'r afael â thri chwestiwn canolog: Beth yw ymwybyddiaeth ofalgar? Pam mynd ati i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar? A sut mae'n berthnasol yn y byd cymhleth sydd ohoni? Gwahoddir gwesteion i oedi, adfyfyrio ac ystyried y cwestiwn mawr sydd yn greiddiol i’r llyfr, sef beth rydyn ni wir yn ei wneud yma?
Mae Mindfulness: The Basics wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol a darllenwyr cyffredinol fel ei gilydd ac mae’n cyfuno ysgrifennu clir, hygyrch â dyfnder academaidd. Eglura Dr Sophie Sansom, un o awduron y gyfrol a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor, mai'r nod yw rhoi i ddarllenwyr ddealltwriaeth gadarn a chyflawn o ymwybyddiaeth ofalgar. Cyd-awduron y llyfr yw David Shannon a Taravajra.
Meddai Sophie:
“Wrth i straen, ansicrwydd ac argyfyngau byd-eang siapio mwy a mwy ar ein bywydau beunyddiol, mae’r llyfr yma’n cynnig man cychwyn go dda er mwyn dysgu am ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’r llyfr yn cyfuno’r hanes, y theori, yr ymarfer a pha mor berthnasol ydy o ar hyn o bryd ac mae’n gyflwyniad gwych i’r maes, gan dywys darllenwyr o ddeunyddiau cefndir ar lefel israddedig at ymarfer gweithredol ac arwyddocâd personol.
“Dan ni’n fwriadol yn lleoli ymwybyddiaeth ofalgar oddi fewn i heriau amgylcheddol, cymdeithasol a gwleidyddol ehangach, gan ofyn sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar gyfrannu nid yn unig at lesiant yr unigolyn ond hefyd at ffyniant dynol a ffyniant y blaned yn ehangach.”
Yn ogystal â darparu canllawiau ymarferol, mae'r awduron yn rhoi darlun o’r dystiolaeth empirig sydd wrth wraidd y dulliau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar gan ymgysylltu â rhai o ddadleuon allweddol y maes—megis ei wreiddiau diwylliannol, ystyriaethau moesegol a’r cyfyngiadau y gwyddom amdanynt.
Mae adran bwrpasol sy’n trafod ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ac yn cynnig modiwlau clir yn egluro’r bwriad, yn trafod ymarfer sganio’r corff, symudiad a llonyddwch, ymarfer eistedd, a gwau ymwybyddiaeth ofalgar yn rhan o fywyd bob dydd. Cefnogir hyn gan ddiagramau, crynodebau penodau ac e-adnoddau sy’n cynnwys canllawiau llafar.
Cyhoeddwyd Mindfulness: The Basics mewn cyfrol clawr caled ar 23 Tachwedd ac mae’r cyhoeddwyr Routledge yn ei ddisgrifio fel llyfr i helpu darllenwyr i ddod ag ymwybyddiaeth ofalgar oddi ar y dudalen ac yn rhan o’u profiad bywyd.