Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyrsiau byrion a datblygiad proffesiynol parhaus
Rydym yn ymfalchïo mewn darparu profiad dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr a rhagoriaeth mewn ymchwil, yng nghanol harddwch gogledd Cymru. Mae staff yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor yn ymfalchïo yn y ddarpariaeth o addysg o ansawdd uchel sy'n rhoi'r myfyriwr wrth galon llwyddiant academaidd. Mae'r ysgol yn hyrwyddo dull hygyrch ac ymatebol o ddiwallu eich anghenion, mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar. Trwy ein Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, rydym wedi cael llwyddiant cyson yn ennill grantiau cystadleuol o amrywiaeth eang o ffynonellau cyllido pwysig. Mae hyn yn sicrhau y caiff ein myfyrwyr fanteisio ar gyfleoedd dysgu sydd ar y blaen o ran gwyddoniaeth ac ymarfer ym meysydd meddygaeth a gofal iechyd.
Ar gyfer rhaglenni cyfoes a chyfleoedd DPP cliciwch yma.
Modiwlau Ôl-gofrestru: Gallwn gynnig cyfleoedd cyffrous i chi ar ystod eang o fodiwlau ar Lefelau 5, 6 neu 7 i wella'ch gwybodaeth a chefnogi'ch dysgu i ymarfer.