
Module SCW-4006:
GC gyda Phlant PI a Theuluoedd
Module Facts
Run by School of Health Sciences
20 Credits or 10 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Mrs Gwenan Prysor
Overall aims and purpose
Mae'r modiwl hwn yn cynnig sylfaen wybodaeth eang mewn agweddau allweddol o waith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae'n adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd mewn modiwlau eraill, gan gynnwys datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol plentyn, ymlyniad a gwydnwch, effeithiau tlodi ar blant a theuluoedd, nodweddion allweddol polisi plant yn y Gymru ddatganoledig, a defnyddio ymchwil i hysbysu ymarfer.
Ceir cyfleoedd i ystyried gwreiddiau a datblygiad gwasanaethau cymdeithasol yn y maes hwn, yn ogystal a chyfle i ennill dealltwriaeth o sut y mae gwasanaethau plant a theuluoedd yn cael eu trefnu a’u darparu, a hynny o fewn cyd-destun aml-asiantaethol ac aml-ddisgyblaethol ehangach.
Bydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddeall Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fel conglfaen ar gyfer hawliau plant mewn deddfwriaeth a datblygiadau polisi. Bydd llais plant a phobl ifanc a'u profiadau yn ystyriaeth allweddol i fyfyrwyr drwy gydol y modiwl.
Bydd cyfle i fyfyrwyr ddeall y cymhlethdodau, cyfyng-gyngor moesegol a gwrthdaro sydd yn dod yn sgîl gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, mewn theori ac yn ymarferol, a phwysigrwydd ymarfer sydd wedi ei seilio ar ganlyniadau ac arferion gorau, ymarfer ataliol ac ymyrraeth cynnar. Bydd y modiwl yn amlinellu'r egwyddorion sy'n sail i ymarfer, a'r prosesau a'r gweithdrefnau sy'n llywio'r broses o asesu plant sydd angen eu diogelu a / neu angen gofal a chymorth, gan gynnwys plant ag anableddau, a'u teuluoedd.
Archwilir anawsterau ac adfyd plentyndod cynnar, gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio, yn ogystal ag effaith byw gyda rhiant neu ofalwr sy'n profi problemau iechyd meddwl, cam-drin domestig neu gamddefnyddio sylweddau, neu unrhyw gyfuniad ohonynt. Bydd hyn hefyd yn amlygu’r pwysigrwydd a’r heriau sydd ymhlyg wrth weithio mewn partneriaeth gyda rhieni a gofalwyr, yn enwedig pan fydd nodweddion o gydymffurfiaeth cudd yn rhan o’r darlun. Rhaid hefyd ystyried gofynion ac oblygiadau ymarfer gyda phlant a phob ifanc sy’n methu byw gyda’u teuluoedd genedigol am ba bynnag reswm.
Disgwylir i fyfyrwyr hefyd ymgyfarwyddo gyda theori ac ymchwil mewn perthynas ag ymyriadau a chanlyniadau, ynghyd â negeseuon allweddol o ymchwiliadau, adolygiadau ymarfer plant / adolygiadau achosion difrifol ac adroddiadau a gomisiynwyd gan y Llywodraeth.
[Noder y gall gwybodaeth sy'n ymwneud â chyfraith gwaith cymdeithasol yn y modiwl hwn newid yng ngoleuni deddfwriaeth newydd a chyfraith achos.]
Course content
Darparu gwybodaeth gynhwysfawr a gwerthfawrogiad beirniadol o agweddau cyfoes allweddol o waith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn paratoi ar gyfer datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol gorau
Caiff hyn ei wneud drwy: Archwilio anawsterau strwythurol, cymdeithasol a phersonol sy'n effeithio ar blant a theuluoedd all arwain at yr angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol
Adnabod grwpiau penodol yr effeithir arnynt gan anfantais, ymyleiddio, ynysu, eithrio, gwahaniaethau a gorthrwm, a deall sut y gallent fod yn fwy agored i niwed o ganlyniad
Ystyried pwysigrwydd cyfathrebu’n briodol a meithrin perthynas effeithiol gyda phlant a phobl ifanc
Annog myfyrwyr i ddatblygu’r gallu i werthuso damcaniaethau, polisïau, gofynion cyfreithiol a statudol, systemau ac ymarfer yn feirniadol.
Archwilio datblygiadau polisi cyfoes yn y Gymru ddatganoledig ac ystyried ymchwil ac ymarfer da yng Nghymru a thu hwnt y gellid ei ddefnyddio i hysbysu, dylanwadu ar a siapio darpariaeth gwasanaethau ac ymarfer gwaith cymdeithasol.
Assessment Criteria
excellent
(A- / A *): Dylai'r myfyriwr rhagorol ddangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r materion canolog o amgylch gwasanaethau gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a gallu hynod fedrus i gymhwyso hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai hefyd fod yn gallu cynhwysfawr i ddadansoddi a gwerthuso yn feirniadol ymchwil mewn perthynas â 'beth sy'n gweithio' ar gyfer y grŵp defnyddwyr gwasanaeth, a dealltwriaeth fanwl a chytbwys o'r cyfyng-gyngor cysylltiedig ac yn gwerthfawrogi materion. Dylai ymwybyddiaeth soffistigedig o egwyddorion sylfaenol hawliau plant fod yn bresennol, ynghyd ag ymrwymiad argyhoeddiadol a ystyriwyd yn dda i hyrwyddo hawliau plant ar gyfer plant a phobl ifanc, ac mae gallu cryf i gymhwyso syniadau hyn i ymarfer hefyd yn bresennol. Bydd y myfyriwr ardderchog hefyd feddu ar wybodaeth gynhwysfawr o'r cyd-destun polisi yng Nghymru, yn gallu dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth o wahaniaethau oddi wrth y polisi yn Lloegr, a bydd yn dangos lefelau uchel iawn o fedr wrth gaffael gwybodaeth gynhwysfawr berthnasol i ymarfer yn y sector hwn yng Nghymru .
(A- / A *): Dylai'r myfyriwr rhagorol ddangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r materion sy'n ganolog i ac o amgylch gwasanaethau gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a gallu hynod fedrus i gymhwyso hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai hefyd fod gallu cynhwysfawr i ddadansoddi a gwerthuso yn feirniadol ymchwil mewn perthynas â 'beth sy'n gweithio' ar gyfer y grŵp yma o ddefnyddwyr gwasanaeth, a dealltwriaeth fanwl a chytbwys o'r materion cyfyng-gyngor a gwerthoedd cysylltiedig. Dylai ymwybyddiaeth soffistigedig o egwyddorion sylfaenol hawliau plant fod yn bresennol, ynghyd ag ymrwymiad sy'n argyhoeddi ac sydd wedi'i ystyried yn dda i hyrwyddo hawliau plant ar gyfer plant a phobl ifanc, ac mae gallu cryf i gymhwyso'r syniadau hyn i ymarfer hefyd yn bresennol. Bydd y myfyriwr ardderchog hefyd yn meddu ar wybodaeth gynhwysfawr o'r cyd-destun polisi yng Nghymru, yn gallu dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth o wahaniaethau oddi wrth y polisi yn Lloegr, a bydd yn dangos lefelau uchel iawn o fedr wrth gaffael gwybodaeth gynhwysfawr berthnasol i ymarfer yn y sector hon yng Nghymru .
threshold
(C): Dylai'r myfyriwr trothwy ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r materion sydd yn ganolog i ac o amgylch gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gynigir i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a'r gallu i gymhwyso hyn i sefyllfaoedd ymarfer. Dylai'r myfyriwr hefyd fod â'r gallu i ddadansoddi a gwerthuso ymchwil mewn perthynas â 'beth sy'n gweithio' ar gyfer y grŵp yma o ddefnyddwyr gwasanaeth, ac yn meddu ar ddealltwriaeth o'r materion cyfyng-gyngor a gwerthoedd sy'n gysylltiedig. Dylai ymwybyddiaeth o egwyddorion sylfaenol hawliau plant fod yn bresennol, ynghyd ag ymrwymiad i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc, a'r gallu i gymhwyso'r cysyniadau hyn i sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyriwr trothwy hefyd yn ymwybodol o'r cyd-destun polisi yng Nghymru, gan gydnabod y gwahaniaethau allweddol gyda pholisi yn Lloegr, a bydd ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gaffael gwybodaeth berthnasol i ymarfer yn y sector hon yng Nghymru.
good
(B): Dylai'r myfyriwr 'nodweddiadol' arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r materion sydd yn ganolog i ac o amgylch gwasanaethau gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a lefel gadarn o allu i'w cymhwyso i sefyllfaoedd ymarfer. Dylai'r myfyriwr hefyd fod â'r gallu clir i ddadansoddi a gwerthuso yn feirniadol ymchwil mewn perthynas â 'beth sy'n gweithio' ar gyfer y grŵp defnyddwyr gwasanaeth yma, a meddu ar ddealltwriaeth dda o'r materion cyfyng-gyngor a gwerthoedd cysylltiedig. Dylai ymwybyddiaeth glir o egwyddorion sylfaenol hawliau plant fod yn bresennol, ynghyd ag ymrwymiad i hyrwyddo hawliau plant ar gyfer plant a phobl ifanc, a'r gallu i gymhwyso'r cysyniadau hyn i sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyriwr 'nodweddiadol' hefyd â gwybodaeth gadarn o'r cyd-destun polisi yng Nghymru, yn gallu dadansoddi'r gwahaniaethau allweddol gyda pholisi yn Lloegr, ac yn medu ar sgiliau cadarn wrth gaffael gwybodaeth fanwl berthnasol i ymarfer yn y sector hon yng Nghymru.
Learning outcomes
-
dealltwriaeth a'r gallu i drafod a gwerthuso'n feirniadol yr ystod o wasanaethau a chymorth sy'n cael eu darparu ar draws y continwwm o anghenion, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau, ymarfer gorau ac ymyrraeth gynnar
-
dealltwriaeth fanwl a gwerthusiad beirniadol o'r cyd-destun cyfreithiol a pholisi ar gyfer gwaith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn y Gymru ddatganoledig
-
dealltwriaeth gynhwysfawr o'r anawsterau a'r profiadau sy'n dod â phlant, pobl ifanc a theuluoedd i gysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys perthnasoedd sy’n camdrîn a chamfanteisio, anghydraddoldebau cymdeithasol a ffactorau socio-economaidd
-
gallu i gymhwyso dadansoddiadau a gwerthusiadau beirniadol o ymchwil, ymchwiliadau ac adolygiadau cyfredol mewn perthynas â gwella ymarfer
-
dealltwriaeth feirniadol o ymarfer gwrth-orthrymol a'r cyfrifoldebau a'r heriau sy'n gynhenid i rôl gwaith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn perthynas â hawliau, cyfrifoldebau, dewis, rheolaeth a phŵer.
-
gwerthfawrogiad a dealltwriaeth feirniadol o sgiliau cyfathrebu priodol ac effeithiol ar gyfer ymgysylltu ac ymyrryd o fewn y maes ymarfer hwn
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Semester 1 | 50 | ||
Interview | 50 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Workshop | Cynhelir gweithdai oddeutu dwy awr yn wythnosol gan ddefnyddio technegau dysgu yn seiliedig ar ymholiad a seminarau dan arweiniad myfyrwyr. Bydd siaradwyr gwadd o dimau gwaith cymdeithasol yn cyfrannu at rai o'r gweithdai hyn, e.e. camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder ieuenctid. Bydd ymgais i gael cyfraniadau gan siaradwyr gwadd o blith unigolion sydd angen gofal a chymorth, a/neu eu gofalwyr pan fo'n bosib a phriodol. Bydd tasgau dadansoddi yn cael eu gosod, er mwyn paratoi ar gyfer y gweithdai. Gall y rhain gynnwys gweithgareddau grŵp neu dasgau unigol, a byddant yn cynnwys defnydd o rywfaint o adnoddau ar-lein ar gyfer dysgu ar eu cyflymder eu hunain. Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 bydd cyfran helaeth o’r ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno ar-lein drwy sesiynau cydamserol ac anghydamserol (synchronous / asynchronous), Ceir dysgu cyfunol yn cynnwys wyneb-yn-wyneb pan fo'r Brifysgol yn cymeradwyo asesiadau iechyd a diogelwch fydd yn caniatau hyn. |
24 |
Lecture | Cynhelir darlithoedd fel rhan o'r strategaeth addysgu fydd yn rhoi damcaniaeth sy'n sail i’r pwnc dan sylw. Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 bydd cyfran helaeth o’r ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno ar-lein drwy sesiynau cydamserol ac anghydamserol (synchronous / asynchronous), Ceir dysgu cyfunol yn cynnwys wyneb-yn-wyneb pan fo'r Brifysgol yn cymeradwyo asesiadau iechyd a diogelwch fydd yn caniatau hyn. |
24 |
Private study | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddarllen cyn darlithoedd a gweithdai er mwyn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r maes pwnc dan sylw. Gofynnir hefyd i fyfyrwyr ddarllen a gwneud defnydd o adnoddau dysgu eraill yn dilyn y darlithoedd a gweithdai, er mwyn atgyfnerthu dysgu. Mae amser astudio preifat yn cynnwys paratoi ar gyfer asesiad. |
152 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Numeracy - Proficiency in using numbers at appropriate levels of accuracy
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Caring - Showing concern for others; caring for children, people with disabilities and/or the elderly
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Demonstrate critical appreciation of the competing views on the nature of social work and its place and purpose in society, and the complex relationship between social justice, social care and social order/control and their practical and ethical implications.
- Develop critical understanding of the relationship between society, state and social work and its centrality to assessing the wellbeing, care and support needs of individuals as well as safeguarding requirements in relation to individuals, families and communities at risk.
- Demonstrate in-depth understanding and reflection of how social work, both as an occupational practice and as an academic subject, evolves, adapts and changes in response to the social, political and economic challenges and demands of contemporary social welfare policy, practice and legislation.
- Critically understand and examine the root causes of discrimination, oppression, prejudice and inequality and how legislation and policy can be applied to challenge them, as well as the ethical concepts of rights, responsibility, freedom, authority and power inherent in the practice of social workers as agents with statutory powers in different situations
- Examine and critically apply a range of theories and research informed evidence that informs understanding of the child, adult, family or community and of the range of assessment and interventions which can be used to address wellbeing and risk.
- Develop critical understanding with critical evaluation of the underpinning perspectives that determine explanations of the characteristics and circumstances, the stages of development and behaviour of people who need care and support, drawing on research, practice experience and the experience and expertise of people who use services
- Demonstrate critical understanding of the factors and processes that facilitate effective interdisciplinary, interprofessional and interagency collaboration and partnership across a plurality of settings and disciplines
- Develop critical appreciation of the current and evolving range and appropriateness of statutory, voluntary and private agencies providing services and the organisational systems inherent within these
- In-depth and critical understanding of the development of strengths-based, person-centred services which focus on the human and legal rights of individuals for control, power and self determination
- Work in a transparent and responsible way, balancing autonomy with complex, multiple and sometimes contradictory accountabilities (for example, to different individuals, employing agencies, professional bodies and the wider society)
- Social work as an ethical activity requires practitioners to recognise the dignity of the individual, as well as make and implement difficult decisions (including the restriction of liberty) in human situations that involve the potential for benefit or harm.
- Involve users of social work services in ways that increase their resources, capacity and power to influence factors affecting their lives
- Demonstrate the ability to reflect on and learn from the exercise of their skills, and develop their professional identity, recognise their own professional and organisational limitations and accountability, and know how and when to seek advice from a range of sources including constructive professional supervision
- Assess human situations, taking into account a variety of factors (including the views of participants, theoretical concepts, research evidence, legislation and organisational policies and procedures)
- Think logically, systematically, creatively, critically and reflectively, in order to carry out a holistic assessment
- Demonstrate persistence in gathering information from a wide range of sources and using a variety of methods, for a range of purposes, critically assessing the reliability and relevance of the information gathered. These methods include electronic searches, reviews of relevant literature, policy and procedures, face-to-face interviews, and written and telephone contact with individuals and groups take into account differences of viewpoint in gathering information
- Apply ethical principles and practices critically in planning problem-solving activities
- Critical analysis and professional judgement and the processes of defensible risk assessment and decision making, including the balance of choice and control, rights and protection in decision making, focussing on wellbeing outcomes.
- Demonstrate interpersonal skills and emotional intelligence that creates and develops relationships based on openness, transparency and empathy
- Make appropriate use of and reflect on research in decision making and professional judgement about practice and in the evaluation of outcomes
- Build and sustain purposeful relationships with people and organisations in communities and inter-professional contexts
- Practice in a manner that promotes well-being, protects safety and resolves conflict
- Engage appropriately with the life experiences of service users, to understand accurately their viewpoint, overcome personal prejudices and respond appropriately to a range of complex personal and interpersonal situations
- Communicate clearly, sensitively and effectively, using appropriate methods with individuals and groups of different ages and abilities in a range of formal and informal situations
- Make decisions based on evidence, set goals and construct specific plans to achieve outcomes, taking into account relevant information including ethical guidelines
- Assimilate, present and disseminate relevant information and conclusions verbally and on paper, in reports and case records, in a structured form, appropriate to the audience for which these have been prepared
- Use information and communication technology effectively and appropriately for professional communication, data storage and retrieval and information searching to enable effective use of research in practice