Module HTC-2129:
Morladron a Brenhinoedd y mor
Manaw a'r Ynysoedd: Teyrnas Llychlynaidd yn Ynysoedd Prydain, 1000-1300 2025-26
HTC-2129
2025-26
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Modiwl - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Nia Jones
Overview
Darlithoedd
1.CYFLWYNIAD: Themau a hanes cynnar; brwydr Clontarf.
2.TEULU GODRED CROVAN: Sefydlu llinach Godred Crovan; Olaf fab Godred.
3.SOMERLED: brenhin neu wrthryfelwr, Llychlynwr neu Wyddel?
4.REGINALD FAB GODRED: ansefydlogrwydd a disgynyddion Somerled.
5.HAKON, BRENHIN NORWY: diwedd y deyrnas.
6.DIWYLLIANT: Llychlynaidd neu Wyddeleg?
7.YR EGLWYS
8.YR IWERDDON A CHYMRU: brenhinoedd Iwerddon, Dulyn a Gwynedd.
9.LLOEGR A NORWY: Y byd Angefinaidd a’r byd Llychlynaidd.
10.YR ALBAN A DIWEDD Y DEYRNAS: Teyrnas yr Alban, hanes hwyrach.
Seminarau a Ffynonellau
1.Materion sylfaenol, cyflwyniad a daearyddiaeth Hanes Svein Asleifarson
2.Godred Crovan, mor-leidr a brenin Cronicl Brenhinoedd Manaw a’r Ynysoedd
3.Somerled ac Argyll Cân Marwolaeth Somerled
4.Reginald: astudiaeth o frenin Moliant Gwyddelig Reginald
5.Marwolaeth y deyrnas Sagas Norseg: Hákonar saga Hákonarsonar, gan Sturla Þórðarson
6.Yr Eglwys Acta brenhinoedd Manaw
7.Diwylliant, economi, cymdeithas Archeoleg Cestyll
8.Iwerddon, Dulyn, a Gwynedd Bywgraffiad Gruffudd ap Cynan, Vita Griffini filii Conani
9.Lloegr a Norwy Dogfennau Seisnig yn ymwneud a brenhinoedd Manaw a’r Ynysoedd
10.Sesiwn adolygu
Assessment Strategy
Meini Prawf Asesu (ceir manylion llawn yn Llawlyfr y Myfyrwyr am y meini prawf a ddefnyddir gyda’r system o farcio categorïaidd) Trothwy Bydd myfyrwyr trothwy (40au is) yn dangos ystod neu ddyfnder gwybodaeth addas ar gyfer rhannau o'r maes perthnasol o leiaf, ac yn gwneud ymgeisiadau rhannol lwyddiannus i saernio dadl sy'n ymgymryd a dadleuon hanesyddol. Bydd angen i’r arholiad ddangos gwybodaeth addas o’r pwnc. Bydd angen tystiolaeth o beth gallu dadansoddol neu sgiliau ymchwil yn y traethawd. Da Bydd myfyrwyr da (C-, C, C+ [50au]) yn dangos lefel uwch o wybodaeth, a’r gallu i gyflwyno dadl gydlynol sy’n cael ei chynnal gan dystiolaeth addas am nifer o agweddau ar y testun. Bydd myfyrwyr da iawn (B-, B, B+ [60au]) yn dangos lefel gadarn o gyrhaeddiad yn yr holl feini prawf a restrwyd yn y paragraffau uchod. Am y ddau, yn yr arholiad bydd angen am dadl berthnasol a chlir, ac yn y traethawd, bydd angen tystiolaeth o sgiliau ymchwil cadarn. Rhagorol Bydd myfyrwyr rhagorol (A-, A, A+, A* [70au ac uwch]) yn dangos y cyrhaeddiad cadarn hwn ar draws yr holl feini prawf ynghyd â dyfnder gwybodaeth drawiadol iawn a/neu allu dadansoddol eithriadol graff. Yn yr arholiad bydd dadlau perthnasol a chlir ynghyd a defnydd trawiadol o dystiolaeth. Yn y traethawd, bydd angen tystiolaeth o gwreiddioldeb neu allu dadansoddol trawiadol ynghyd a sgiliau ymchwil cadarn.
Learning Outcomes
- Dangos gwybodaeth fanylach o agweddau penodol o'r hanes Manaw a'r Ynysoedd.
- Llunio dadleuon hanesyddol a’u hatgyfnerthu gyda thystiolaeth o dan amodau arholiad.
- cloriannu dehongliadau hanesyddiaethol o'r pwnc, yn cynnwys barn hanesyddiaethol ddiweddar.
- cyflwyno dadleuon hanesyddol eglur ar agweddau o hanes Manaw a'r Ynysoedd yn ffurf traethawd gradd, gan gefnogi'r dadleuon yma a thystiolaeth ffynonellau cynradd.
- dangos gwybodaeth eang o hanes gwleidyddol a diwylliannol teyrnas Manaw a'r Ynysoedd yn y cyfnod c. 1000-c.1300.
- deall y berthynas rhwng hanes yr ynysoedd yma a hanes y gwledydd o'u cwmpas, ac arddangos gwybodaeth fanwl o agwedd benodol o hyn.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
arholiad dwy awr yn gofyn am drafod hanes teyrnas Manaw a'r Ynysoedd a hefyd perthynas y deyrnas gydag ardaloedd cyfagos (meini 1, 2, 3, 4, 6) Dwy gwestiwn traethawd: Atebwch UN cwestiwn o adran A ac UN o adran B Mae cwestiynau adran A yn ffocysu ar hanes teyrnas Manaw a'r Ynysoedd ei hunan Mae cwestiynau adran B yn gofyn am drafodaeth o Manaw a'r Ynysoedd yn ei chyd-destun ehangach
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd Traethawd 2,000–3,000 gair yn trafod agwedd benodol o hanes y deyrnas neu'r berthynas rhwng teyrnas Manaw a'r Ynysoedd ac ardal gyfagos (meini 2 neu 3; 4; 5)
Weighting
50%
Due date
11/05/2023