Yn 2004, sefydlodd Prifysgol Bangor bartneriaeth gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain (BIBF), gan alluogi myfyrwyr i ddechrau eu gradd yn Bahrain a chwblhau eu blwyddyn olaf ym Mangor. Bellach hon yw un o'r rhaglenni israddedig mwyaf llwyddiannus yn Bahrain. Sefydlwyd gwobr Cyn-fyfyriwr y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF i ddathlu'r bartneriaeth hon ac i dynnu sylw at lwyddiannau cyn-fyfyrwyr y ddau sefydliad a chydnabod graddedigion o'r rhaglen sydd wedi cael llwyddiant proffesiynol nodedig.
Cyhoeddwyd mai Fatema Bastaki oedd pedwerydd Cyn-fyfyriwr y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF yn ystod yr aduniad blynyddol i gyn-fyfyrwyr a gynhaliwyd yn Nheyrnas Bahrain ym mis Medi. Cyflwynodd Yr Athro Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes, y wobr i Fatema o flaen cynulleidfa o dros 100 o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
Mae Fatema yn arbenigwr marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol ac yn gyflwynydd newyddion teledu. Enillodd ei gradd mewn Bancio a Chyllid yn 2012 ac, ar ôl dychwelyd i Bahrain, cafodd swyddi cyllidol yn Credimax, American Express a Bahrain Bourse cyn dechrau ar ei gyrfa ym maes cysylltiadau cyhoeddus yn 2013 fel Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus yn y Bahrain Commercial Facilities Company. Yn ogystal â rheoli'r adran cysylltiadau cyhoeddus, roedd hi hefyd yn gyd-reolwr brand i'r unig gerdyn credyd i ferched yn Nheyrnas Bahrain, 'Imtiaz For Her', gan arwain y mudiad rhoi grym i ferched. Ynghyd â’i phrif swydd, mae Fatema hefyd yn gyflwynydd teledu a golygydd a chyflwynydd newyddion busnes (Arabeg) i'r Weinyddiaeth Materion Gwybodaeth ac mae hefyd yn gweithio fel arweinydd seremoniau, trosleisio ac artist IVR mewn Arabeg a Saesneg i ystod o gleientiaid.
Meddai Fatema, “Rydw i wrth fy modd o dderbyn y wobr yma. Dysgodd Bangor i mi fod yn annibynnol ac yn falch o bwy ydw i. Roeddwn i eisiau astudio dramor ar ôl gorffen yn yr ysgol uwchradd ac roedd rhaglen BIBF / Bangor yn cynnig popeth roeddwn i'n chwilio amdano. Mae Bangor yn rhoi profiad arbennig iawn i chi. Mae ganddi academyddion gwych a rhoddodd gyfle i mi ddysgu am ddiwylliannau newydd a dod yn ffrindiau â phobl o wahanol wledydd. Mae'n anrhydedd mawr i mi fod yn gyn-fyfyriwr o Fangor a BIBF! ”
Dywedodd Yr Athro Andrew Edwards, “Rydym yn falch o’r nifer eithriadol o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus sydd wedi dod trwy raglen Bangor / BIBF ac i allu nodi’r berthynas arbennig hon â Gwobr Cyn-fyfyriwr y Flwyddyn. Mae Fatema yn enillydd teilwng iawn o wobr 2019 ac rydym yn dymuno'r gorau iddi hi yn ei hymdrechion yn y dyfodol."