Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn gallu eich cynghori ar faterion ariannol, eich helpu i ddod o hyd i dŷ preifat cefnogaeth anabledd a dyslecsia a chynnig cefnogaeth iechyd meddwl. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth cwnsela.
Cefnogaeth Addysgu
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn darparu amrywiaeth o gymorth sydd wedi'i gynllunio i'ch galluogi chi i wneud y gorau o'ch astudiaethau academaidd.
Arweinwyr Cyfoed
Mae ein Arweinwyr Cyfoed, sydd yn fyfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn, ar gael i'ch helpu o'r funud yr ydych yn cyrraedd y Brifysgol ac yn eich cefnogi wrth i chi ymgartrefu.
Tiwtor Personol
Byddwch hefyd yn cael Tiwtor Personol, a fydd yn gyswllt i chi ar gyfer unrhyw faterion sydd yn codi yn ymwenud â'ch cwrs ac yn cynnig cefnogaeth drwy gydol eich astudiaethau.