Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
- Bwrsariaethau Cychwyn
- Bwrsariaethau Astudio trwy'r Gymraeg
- Bwrsariaethau Gofalwyr
- Bwrsariaethau Ychwanegol
Cofiwch...
- Gallwch dderbyn Ysgoloriaeth Teilyngdod, neu unrhywun o'r Ysgoloriaethau Mynediad eraill, yn ychwanegol at unrhyw daliad(au) bwrsariaeth rydych yn gymwys amdano/amdanynt.
- I fod yn gymwys i gael unrhyw un o fwrsariaethau Bangor, rhaid i chi lenwi ffurflen Gwneud Cais am Gyllid Myfyrwyr (PN1) - dyma'r ffordd o asesu hawl myfyrwyr i gael benthyciadau, grantiau cynhaliaeth ac ati. Bydd yr un drefn (a'r un ffurflen) yn cynnwys asesu eich hawl i gael un o fwrsariaethau Bangor.
- Caiff bwrsariaethau ond eu talu i fyfyrwyr israddedig llawn amser sydd yn talu'r ffi llawn o £9,000, wedi cofrestru ac yn bresennol 14 diwrnod cyn diwrnod talu'r fwrsariaeth.
- Nid yw myfyrwyr sydd yn derbyn unrhyw daliad bwrsariaeth arall (e.e. GIC, Cyngor Gofal Iechyd a Chymdeithasol) yn deilwng ar gyfer y cynllun bwrsariaethau.
- Caiff taliadau bwrsariaethau eu gweinyddu a'u dosbarthu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar ran y Brifysgol - felly rhaid i chi lenwi ffurflen gais am gyllid myfyrwyr cyn gallu derbyn taliad bwrsariaeth gan Fangor.
Cronfa Caledi
Ydych chi'n fyfyriwr cartref sydd wedi'i gofrestru yn y DU neu'r UE ac yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r sefyllfa Coronafirws bresennol?
Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalennau Cyngor Ariannol.