CAL:ON Cymru: Cryfhau Llythrennedd Ledled Cymru
Mae CAL:ON Cymru yn fenter llythrennedd dwyieithog cenedlaethol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, dan arweiniad Prifysgol Bangor ac wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Ganolfan Addysgu Llythrennedd: Offer tuag at Newid (CAL:ON) yn rhoi mynediad i ysgolion ledled Cymru at ddysgu proffesiynol ac arweiniad ar lythrennedd, rhaglenni iaith a llythrennedd, ac asesiadau o ansawdd uchel ac wedi’u seilio ar dystiolaeth. Mae’r rhain wedi’u cynllunio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn Gymraeg a Saesneg.
Ein nod yw cefnogi ysgolion i gryfhau eu dealltwriaeth a’u defnydd o ddulliau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o addysgu darllen ac ysgrifennu. Rydym am alluogi pob plentyn, waeth beth fo’i allu, i fod yn ddarllenwyr ac yn ysgrifenwyr hyderus, llawn cymhelliant, a llwyddiannus.