Mae’r Canllaw i Ffoneg ar gyfer Ysgolion yng Nghymru yn egluro’r wyddoniaeth y tu ôl i ffoneg synthetig systematig (FfSS) a sut i’w weithredu’n effeithiol fel rhan o addysgu llythrennedd dwyieithog. Yn ogystal, mae’n cynnwys awgrymiadau ymarferol ar sut i gyflwyno FfSS mewn ffordd gyson a chydlynol.
Mae’r Canllaw yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ysgolion ddefnyddio ffoneg synthetig systematig (FfSS). Mae’n cynnwys cyfraniadau gan dîm arbenigol o ymarferwyr, academyddion, ac arbenigwyr a phartneriaid eraill ym maes addysg llythrennedd.
Mae’r Crynodeb i Athrawon a Chymorthyddion Dysgu yn drosolwg byrrach a hylaw o’r prif bwyntiau sydd yn y Canllaw llawn.
Mae Atodiad A yn cynnig cyngor ymarferol i ysgolion o ran dewis yr adnoddau ffoneg gorau i’w dysgwyr.
Mae Atodiad B yn ganllaw defnyddiol i Gyfatebiaethau Graffem Ffonem (CGFfau) yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gallwch lawrlwytho y Canllaw i Ffoneg ar gyfer Ysgolion a'r Crynodeb i Athrawon a Chymorthyddion Dysgu isod. Gallwch lawrlwytho Atodiad A a B fel adnoddau ar wahân neu fel rhan o'r Canllaw llawn.