Fel rhan o'r prosiect Dysgu Proffesiynol, rydym yn gweithio gyda darparwyr AGA ledled Cymru i helpu i sicrhau bod athrawon newydd yn graddio gyda sylfaen gadarn mewn addysgu llythrennedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae’r rhan hon o'r prosiect yn cefnogi darparwyr AGA i gryfhau'r paratoad ar gyfer addysgu darllen, ysgrifennu, iaith ac asesu mewn ffyrdd sy'n berthnasol i gyd-destunau Cymraeg a Saesneg. Wrth wneud hynny, ein nod yw cyfrannu at ddatblygiad hirdymor arbenigedd llythrennedd ar draws y system addysg yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd y dull hwn yn cael ei gynnwys ym mhob rhaglen AGA ledled Cymru.