Rydym yn datblygu set gynhwysfawr o becynnau Dysgu Proffesiynol i gefnogi ysgolion. Bydd y pecynnau hyn yn eu helpu i alinio eu haddysgu llythrennedd â'r dystiolaeth orau sydd ar gael ar ddulliau effeithiol o addysgu darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r holl adnoddau'n ddwyieithog. Maent yn adlewyrchu cyd-destunau ieithyddol, cwricwlaidd ac addysgol nodedig, sy’n gysylltiedig âg addysgu llythrennedd ledled Cymru.
Mae'r adnoddau Dysgu Proffesiynol yn cynnwys:
- Modiwlau rhyngweithiol ar-lein ar gyfer athrawon dosbarth ac arweinwyr ysgolion. Mae'r modiwlau hyn yn cymryd tua 20-30 munud yr un.
- Llawlyfr i helpu ymarferwyr i nodi meysydd o arfer cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â meysydd lle mae newidiadau mewn arfer yn debygol o wella canlyniadau disgyblion.
- Gweithdai undydd wyneb yn wyneb a sesiynau cymorth ar-lein rheolaidd i helpu arweinwyr a staff ysgolion i gynllunio a gweithredu'r newidiadau y maent yn eu hadnabod fel rhai pwysig o fewn cyd-destunau eu hysgol eu hunain.
Bydd adnoddau a hyfforddiant ar wahân ar gael i ymarferwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, a fydd yn cydnabod y gwahanol ofynion llythrennedd, cyd-destunau cwricwlwm, a dulliau addysgu ar draws cyfnodau.
Rydym wrthi’n datblygu’r deunyddiau hyn a byddwn yn gwerthuso eu defnydd gydag ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2026/27, cyn eu mireinio er mwyn eu defnyddio’n ehangach ledled Cymru.