Fy rhagenw dewisol yw ef.
Rydw i yn fy ail flwyddyn o astudio Daearyddiaeth (BSc) ym Mangor ac rydw i wrth fy modd yma! Un o fy hobïau yw peintio ffigurau bychan ar gyfer cystadlaethau ac i chwarae gemau bwrdd gyda nhw! Rydw i hefyd wrth fy modd yn nofio mewn dŵr oer ac mae gan yr ardal o amgylch Bangor fannau ardderchog i wneud hynny.
Rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau a helpu i greu profiad bythgofiadwy i'r myfyrwyr newydd sy'n cyrraedd ym mis Medi a'r myfyrwyr presennol, ynghyd ag aelodau anhygoel eraill y tîm!