Helo bawb! Aneesha ydw i ac rydw i’n fyfyrwraig Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig yn fy mhedwaredd flwyddyn.
Rydw i wrth fy modd â ffotograffiaeth, celf a phobi danteithion melys. Rydw i’n treulio llawer o fy amser yn gwylio amrywiaeth o wahanol raglenni teledu a ffilmiau, felly mae croeso i chi roi rhywfaint o argymhellion i mi :).
Rydw i hefyd yn mwynhau darganfod lleoedd newydd, teithio a dysgu am wahanol ddiwylliannau (yn enwedig trwy fwyd).
Rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â chi i gyd a chael y flwyddyn orau eto!