Fel myfyriwr Coedwigaeth yn fy ail flwyddyn, rydw i wrth fy modd yn treulio amser yn yr awyr agored, yn crwydro drwy natur, ond rydw i hefyd yn mwynhau sgwrsio â phobl, rhoi cynnig ar sgiliau newydd, cyfnewid straeon a dysgu pethau newydd. Mae gen i ddiddordeb yn bron i bopeth, yn enwedig os nad ydw i'n gwybod llawer am y pwnc, felly dewch i siarad â mi, sgwrsio am bethau amrywiol ac archwilio’r gweithgareddau anhygoel y byddwn ni'n eu gwneud eleni.
Fedra i ddim aros i gwrdd â chi i gyd a rhannu straeon a phrofiadau newydd, cadwch lygad allan amdana i o gwmpas y campws a pheidiwch â bod ofn dod i ddweud helo. Wela i chi ar ôl yr haf!