Joshua ydw i, myfyriwr Cyfraith yma ym Mangor ac yn rhan o’r tîm Campws Byw!
Pan nad ydw i'n darllen llyfrau, fel arfer gallwch chi ddod o hyd i mi'n cadw'n heini neu'n bod yn greadigol. Rydw i’n chwarae ac yn hyfforddi tenis, yn caru celf, yn chwarae'r piano, ac yn eithriadol o dda am ddod o hyd i esgusodion i hepgor diwrnod hyfforddi’r coesau yn y gampfa.
Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at helpu i adeiladu cymuned groesawgar lle mae pawb yn teimlo'n gartrefol. Fyddwn i byth yn dweud na wrth amser da ac awyrgylch gwych, felly os gwelwch chi fi o gwmpas, dewch i ddweud helo!