(hi)
Helo!
Kayleigh ydw i, myfyriwr Gwyddorau Meddygol sy'n mwynhau bod yn greadigol ac yn egnïol. Rydw i wastad yn symud neu'n gwneud rhywbeth, boed hynny'n dawnsio, chwarae gemau, creu celf neu ymgolli mewn llyfr da.
Rydw i’n edrych ymlaen at gofleidio profiadau a sgiliau newydd gyda phawb drwy gydol y flwyddyn newydd hon.