Helo bawb, Luke ydw i ac rydw i’n mynd i mewn i fy 4edd flwyddyn yn astudio Bioleg Môr ac Eigioneg.
Y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi cael profiad o godi arian ar gyfer elusen, gan godi dros £2000 i Amnesty International UK gyda thîm bach, gan drefnu, hyrwyddo a chynnal digwyddiadau.
Yn ogystal, mae gen i sianel YouTube ers bron i ddegawd. Rydw i wedi bod yn creu cynnwys am hwyl ond hefyd, dros amser, gwella fy null gan greu mân-luniau deniadol wrth ddarparu adloniant, golygu a sylwebu. Rydw i’n edrych ymlaen at greu cynnwys hwyliog a diddorol ar gyfer ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol, felly ewch i gael golwg arnyn nhw @campuslifebangor
Pan dydw i ddim yn gweithio, rydw i’n hoffi ymlacio ym myd natur, cerdded mynyddoedd a mynd ar anturiaethau gwyllt, gan dynnu lluniau a fideos llawn golygfeydd hardd. Rydw i’n edrych ymlaen at gynllunio digwyddiadau gwych a chwrdd â chi i gyd.