Hei bawb
Fy enw i yw Mark, ac rydw i’n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio systemau gwybodaeth cyfrifiadurol ar gyfer busnes.
Gan fy mod i o Zimbabwe, rydw i’n caru natur a bod yn yr awyr agored. Boed hynny’n mynd am dro, taith yn y car neu gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored hwyliog, rydw i wrth fy modd bod yn egnïol a herio fy hun. Gobeithio eich bod chi’n edrych ymlaen gymaint ag yr ydw i am y digwyddiadau rydyn ni wedi'u cynllunio ar eich cyfer chi.