“Helo,
Fy enw i yw Steffan, ac rydw i’n fyfyriwr Cwnsela yn fy ail flwyddyn.
Yn fy amser hamdden, rydw i’n mwynhau darlunio, mynd am dro bob hyn a hyn, a gwneud rhywfaint o wylio pyllau (rydw i’n arbennig o hoff o hwyaid!). Rydw i hefyd wrth fy modd yn darllen manga, gwylio anime a gwylio pêl-droed.
Rydw i wir yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y digwyddiadau Campws Byw sydd wedi eu trefnu, yn enwedig y nosweithiau Switch, y nosweithiau Bingo a’r nosweithiau Lego. Alla i ddim aros i gwrdd a sgwrsio â chi gyd yn ystod ein gweithgareddau!"