Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu yn gwrs datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) asesedig, nad yw’n cynnwys credydau academaidd, a ddarperir gan Brifysgol Bangor drwy Ganolfan Dyslecsia Miles.
Mae’r cwrs yn archwilio ymchwil a damcaniaeth gyfredol sy’n ymwneud â datblygiad llythrennedd, anawsterau llythrennedd a dyslecsia. Byddwch yn ystyried y prosesau gwybyddol sy’n gysylltiedig â darllen, ysgrifennu a sillafu, ac yn archwilio sut y gellir defnyddio gwybodaeth asesu i adnabod anghenion cymorth a llywio’r broses o gynllunio ymyriadau.
Nid yw’r cwrs yn cynnwys credydau academaidd Prifysgol Bangor ac nid yw ei gwblhau’n llwyddiannus yn arwain at gymhwyster academaidd gan Brifysgol Bangor.
Gallwch ddilyn y cwrs hwn yn unigol neu fel rhan o’r Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol.
Gweld y Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Gall y cwrs fod yn addas ar gyfer:
- athrawon
- tiwtoriaid llythrennedd arbenigol
- cynorthwywyr addysgu a staff cymorth dysgu
- ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- therapyddion lleferydd ac iaith
- gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda dysgwyr sy’n profi anawsterau llythrennedd neu ddyslecsia.
Nid oes angen ichi fod wedi cwblhau’r naill na’r llall o’r cyrsiau eraill yn y llwybr cyn dechrau’r cwrs hwn. Os ydych yn bwriadu dilyn y llwybr llawn, gellir cwblhau’r cwrs hwn cyn neu ar ôl y cwrs Ymarferydd Arbenigol, ond rhaid ei gwblhau’n llwyddiannus cyn dechrau’r cwrs Asesydd Arbenigol.
Beth fyddwch yn ei ddysgu?
Drwy’r cwrs, byddwch yn datblygu eich gallu i:
- werthuso ymchwil a damcaniaeth gyfredol sy’n ymwneud â datblygiad llythrennedd, anawsterau llythrennedd a dyslecsia
- deall y prosesau gwybyddol sy’n gysylltiedig â darllen, ysgrifennu a sillafu
- ystyried sut y gall cryfderau gwybyddol a meysydd lle ceir anhawster effeithio ar ddatblygiad llythrennedd
- deall egwyddorion allweddol seicometreg ac asesu addysgol
- dehongli gwybodaeth asesu a chysylltu’r canfyddiadau â chyrhaeddiad llythrennedd
- ystyried rôl sgrinio ac offer digidol wrth adnabod anawsterau llythrennedd
- defnyddio tystiolaeth i lywio cymorth, ymyriadau ac addasiadau rhesymol priodol
- cyfathrebu dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gydweithwyr a chefnogi arferion cynhwysol.
Hyd y cwrs a’r ymrwymiad astudio
Cyflwynir y cwrs yn hyblyg dros chwe mis a gellir ei ddilyn ar-lein. Mae’r dull darparu’n cynnwys addysgu byw, deunyddiau dysgu wedi’u recordio, gweithgareddau ar-lein a chymorth gan diwtoriaid. Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i ddysgu wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor.
Dylech gynllunio ar gyfer tua 12 awr o astudio annibynnol bob wythnos ochr yn ochr â’r addysgu byw a’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag asesu.
Disgwylir i’r cwrs nesaf ddechrau ym mis Ionawr 2027.
Asesu
Gall y dulliau asesu gynnwys:
- aseiniadau ysgrifenedig sy’n archwilio’r ymchwil a’r fframweithiau damcaniaethol sy’n sail i anawsterau llythrennedd
- asesiadau a gweithgareddau ar-lein
- cyflwyniad datblygiad proffesiynol.
Defnyddir gweithgareddau ffurfiannol drwy gydol y cwrs i gefnogi eich dysgu. Defnyddir asesiadau crynodol i benderfynu a ydych wedi bodloni gofynion y cwrs.
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Nid yw’r cwrs hwn ynddo’i hun yn arwain at achrediad proffesiynol.
Bydd cwblhau’r tri chwrs yn y llwybr yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr cymwys i wneud cais ar wahân am gydnabyddiaeth broffesiynol fel athro-asesydd arbenigol ac am Dystysgrif Ymarfer Asesu drwy gymdeithas broffesiynol sydd wedi’i chymeradwyo gan SASC, megis BDA, Patoss neu Dyslexia Action.
Nid yw cydnabyddiaeth broffesiynol, aelodaeth na Thystysgrif Ymarfer Asesu yn cael eu dyfarnu’n awtomatig gan Brifysgol Bangor. Rhaid i ddysgwyr wneud cais ar wahân a bodloni gofynion cyfredol y sefydliad perthnasol o ran cymhwystra, aelodaeth, y broses ymgeisio a ffioedd.
Tiwtor
Ruth Elliott
Ruth Elliott yw Arweinydd DPP Canolfan Dyslecsia Miles ac mae’n athrawes ac asesydd arbenigol plant, pobl ifanc ac oedolion ag anawsterau llythrennedd. Mae’n athrawes gymwysedig ac yn meddu ar AMBDA gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain. Mae hefyd yn creu cynnwys ac yn gweithredu fel cynghorydd ar gyfer prosiect CA:LON.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r cwrs yn archwilio’r ymchwil a’r ddamcaniaeth sy’n sail i ddatblygiad llythrennedd, anawsterau llythrennedd a dyslecsia.
Gall y pynciau gynnwys:
- y prosesau gwybyddol sy’n gysylltiedig â darllen, ysgrifennu a sillafu
- esboniadau cyfoes o anawsterau llythrennedd a dyslecsia
- cryfderau gwybyddol a meysydd lle ceir anhawster a all effeithio ar ddatblygiad llythrennedd
- y berthynas rhwng damcaniaeth, asesu ac ymyrryd
- egwyddorion seicometreg ac asesu addysgol
- dehongli gwybodaeth asesu ochr yn ochr â chyrhaeddiad llythrennedd
- defnyddio offer sgrinio ac asesu digidol
- defnyddio tystiolaeth i gynllunio cymorth, ymyriadau ac addasiadau rhesymol
- cyfathrebu dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi arferion cynhwysol.
Sut caiff y cwrs ei gyflwyno?
Cyflwynir y cwrs yn hyblyg a gellir ei gwblhau ar-lein. Gall yr addysgu gynnwys:
- sesiynau byw ar-lein
- deunyddiau dysgu wedi’u recordio
- gweithgareddau dysgu ar-lein
- cymorth gan diwtoriaid
- hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar asesu
- dysgu wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor, pan fydd ar gael.
Dylech gynllunio ar gyfer tua 12 awr o astudio annibynnol bob wythnos ochr yn ochr â’r addysgu a’r gweithgareddau asesu a drefnwyd.
Cyflwynir yr addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Cost y Cwrs
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, y ffi am y cwrs unigol hwn yw £750.
Os byddwch yn archebu’r tri chwrs fel rhan o’r Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol, cyfanswm y ffi ostyngol yw £4,750.
Gweld y llwybr hyfforddiant proffesiynol llawn
Nid yw ffioedd sefydliadau proffesiynol allanol ar gyfer aelodaeth, cydnabyddiaeth broffesiynol neu Dystysgrif Ymarfer Asesu wedi’u cynnwys yn ffi’r cwrs.
Gofynion Mynediad
Nid oes angen ichi fod wedi cwblhau cwrs arbenigol blaenorol cyn gwneud cais.
Dylai ymgeiswyr:
- feddu ar y sgiliau academaidd, y profiad proffesiynol a’r gallu angenrheidiol i ymgymryd ag astudiaeth broffesiynol ran-amser heriol a gwaith asesedig
- meddu ar sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfathrebu cryf
- gallu ymgysylltu ag ymchwil, damcaniaeth a deunydd sy’n ymwneud ag asesu.
Os ydych yn bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Ymarferydd Arbenigol neu’r cwrs Asesydd Arbenigol, bydd gofynion mynediad ac ymarferol ychwanegol yn berthnasol. Gwiriwch dudalennau’r cyrsiau perthnasol neu cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles am gyngor.
Efallai y gofynnir i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg sy’n cyfateb i IELTS 6.0.
Cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles os nad ydych yn siŵr a yw eich cymwysterau neu eich profiad yn bodloni’r gofynion.
Cyflwynir yr addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Efallai y gofynnir i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg sy’n cyfateb i IELTS 6.0.
Gwneud Cais
Gwneud cais am y cwrs hwn neu’r llwybr llawn
I wneud cais am Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu fel cwrs DPP unigol, neu fel rhan o’r Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol llawn, llenwch y ffurflen gais isod.
Bydd y ffurflen yn gofyn ichi ddewis a ydych yn gwneud cais am y llwybr llawn neu am gwrs unigol.
Gwneud cais am y cwrs hwn neu’r llwybr llawn
Angen cyngor cyn gwneud cais?
Os hoffech drafod eich cymhwystra, eich nodau o ran achrediad proffesiynol neu ai hwn yw’r cwrs mwyaf addas ichi, llenwch ein ffurflen ymholi neu cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles:
E-bost: mdc-training@bangor.ac.uk
Gofyn am gyngor gan Ganolfan Dyslecsia Miles
Achrediad proffesiynol
Mae gwneud cais am gwrs DPP Prifysgol Bangor ar wahân i wneud cais am achrediad proffesiynol, aelodaeth neu Dystysgrif Ymarfer Asesu drwy sefydliad proffesiynol allanol.