Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg sydd am ddatblygu gwybodaeth arbenigol a sgiliau ymarferol i gefnogi ac asesu dysgwyr ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia/Anawsterau Dysgu Penodol.
Mae’r llwybr yn cynnwys tri chwrs datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) asesedig, nad ydynt yn cynnwys credydau academaidd, a ddarperir gan Brifysgol Bangor drwy Ganolfan Dyslecsia Miles. Gellir dilyn y cyrsiau’n unigol hefyd, yn amodol ar eu gofynion mynediad.
Nid yw’r cyrsiau’n cynnwys credydau academaidd Prifysgol Bangor ac nid yw eu cwblhau’n llwyddiannus yn arwain at gymhwyster academaidd gan Brifysgol Bangor.
Yn amodol ar ofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol, bydd cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr cymwys i wneud cais ar wahân am gydnabyddiaeth broffesiynol, aelodaeth neu Dystysgrif Ymarfer Asesu.
Mae’r llwybr yn cyfuno ymchwil gyfredol, dulliau addysgu arbenigol a sgiliau asesu diagnostig. Drwy’r tri chwrs, byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r arbenigedd ymarferol sydd eu hangen i ddeall anawsterau llythrennedd, cynllunio a darparu ymyriadau effeithiol, cynnal asesiadau arbenigol a llunio adroddiadau proffesiynol.
Gallwch archebu’r llwybr llawn neu ddilyn cyrsiau unigol. Gall tîm Canolfan Dyslecsia Miles eich cynghori ynghylch y man cychwyn mwyaf addas ar sail eich cymwysterau, eich profiad a’ch nodau proffesiynol.
Ar gyfer pwy mae’r llwybr hwn?
Gall y llwybr fod yn addas ar gyfer:
- athrawon
- ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- cynorthwywyr addysgu a staff cymorth dysgu
- tiwtoriaid llythrennedd arbenigol
- therapyddion lleferydd ac iaith
- gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dysgwyr sydd â dyslecsia neu anawsterau llythrennedd
- gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag asesu, ymyrryd neu gymorth dysgu.
Bydd y gydnabyddiaeth broffesiynol sydd ar gael yn dibynnu ar eich cymwysterau presennol, eich profiad proffesiynol a gofynion y corff proffesiynol perthnasol.
Pam astudio’r llwybr hwn?
Mae’r llwybr yn darparu taith strwythuredig o ddeall y dystiolaeth sy’n ymwneud ag anawsterau llythrennedd i ddatblygu arferion addysgu ac asesu arbenigol.
Byddwch yn cael cyfleoedd i:
- ddatblygu dealltwriaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ddatblygiad llythrennedd, dyslecsia ac anawsterau llythrennedd
- defnyddio dulliau arbenigol wrth gefnogi plant a phobl ifanc
- cynllunio, darparu a gwerthuso ymyriadau llythrennedd wedi’u targedu
- datblygu sgiliau asesu ymarferol ac ysgrifennu adroddiadau proffesiynol
- dysgu’n hyblyg ar-lein, gyda sesiynau wyneb yn wyneb ym Mangor pan fo angen
- cael mynediad at ddarpariaeth Gymraeg arbenigol a chwblhau’r adnoddau a’r asesiadau perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg
- gweithio tuag at gydnabyddiaeth neu statws proffesiynol cydnabyddedig, yn amodol ar gymhwystra a chais ar wahân.
Sut caiff y llwybr ei gyflwyno?
Darperir y cyrsiau’n hyblyg a gellir eu dilyn ar-lein. Yn dibynnu ar y cwrs a’r deunyddiau asesu sydd ar gael ichi, gall y dull darparu gynnwys:
- addysgu byw ar-lein
- deunyddiau dysgu wedi’u recordio
- gweithgareddau dysgu ar-lein
- cymorth a mentora gan diwtoriaid
- sesiynau wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor
- gweithgareddau addysgu ac asesu ymarferol.
Cyflwynir yr addysgu ar gyfer y tri chwrs drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ar gyfer Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu a’r cwrs Ymarferydd Arbenigol.
Mae rhai adnoddau a pheth gwaith asesedig ar y cwrs Asesydd Arbenigol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, ond rhaid cyflwyno adroddiadau asesu diagnostig ffurfiol yn Saesneg.
Dylai’r rhan fwyaf o ddysgwyr gynllunio ar gyfer tua 12 awr o astudio annibynnol bob wythnos ochr yn ochr â’r addysgu a’r gweithgareddau ymarferol a drefnwyd.
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Yn amodol ar ofynion cyfredol y sefydliad proffesiynol perthnasol, bydd cwblhau’r cwrs Ymarferydd Arbenigol yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr cymwys i wneud cais ar wahân am gydnabyddiaeth briodol fel athro neu ymarferydd arbenigol.
Bydd cwblhau’r tri chwrs yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr cymwys i wneud cais ar wahân am gydnabyddiaeth broffesiynol fel athro-asesydd arbenigol ac am Dystysgrif Ymarfer Asesu drwy gymdeithas broffesiynol sydd wedi’i chymeradwyo gan SASC, megis BDA, Patoss neu Dyslexia Action.
Nid yw cydnabyddiaeth broffesiynol, aelodaeth na Thystysgrif Ymarfer Asesu yn cael eu dyfarnu’n awtomatig gan Brifysgol Bangor. Rhaid i ddysgwyr wneud cais ar wahân a bodloni gofynion cyfredol y sefydliad perthnasol o ran cymhwystra, aelodaeth, y broses ymgeisio a ffioedd.
Tîm addysgu
Darperir y llwybr gan athrawon ac aseswyr arbenigol profiadol o Ganolfan Dyslecsia Miles.
Mae gwybodaeth lawn am y tîm addysgu ar gael ar dudalennau’r cyrsiau unigol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r llwybr yn cynnwys tri chwrs DPP asesedig nad ydynt yn cynnwys credydau academaidd.
1. Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu
Mae’r cwrs hwn yn archwilio ymchwil a damcaniaeth gyfredol sy’n ymwneud â datblygiad llythrennedd, anawsterau llythrennedd a dyslecsia.
Byddwch yn ystyried y prosesau gwybyddol sy’n gysylltiedig â darllen, ysgrifennu a sillafu, a sut y gellir defnyddio gwybodaeth asesu i adnabod anghenion cymorth a llywio’r broses o gynllunio ymyriadau.
Gellir astudio’r cwrs hwn cyn neu ar ôl y cwrs Ymarferydd Arbenigol, ond rhaid ei gwblhau cyn dechrau’r cwrs Asesydd Arbenigol.
Gweld y cwrs Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu
2. Ymarferydd Arbenigol: Addysgu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn datblygu’r sgiliau addysgu arbenigol sydd eu hangen i gefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau llythrennedd.
Byddwch yn cynllunio, darparu a gwerthuso ymyriadau llythrennedd wedi’u targedu wrth ddatblygu eich dealltwriaeth o addysgu amlsynhwyraidd ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Gellir astudio’r cwrs hwn cyn neu ar ôl y cwrs Gwyddor Anawsterau Llythrennedd.
Gweld y cwrs Ymarferydd Arbenigol
3. Asesydd Arbenigol: Asesu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia yn Ymarferol
Mae’r cwrs hwn yn datblygu sgiliau asesu arbenigol, gan gynnwys asesu llythrennedd, profion seicometrig, asesu diagnostig ac ysgrifennu adroddiadau proffesiynol.
Byddwch yn dysgu sut i weinyddu a dehongli asesiadau a defnyddio’r canfyddiadau i wneud argymhellion gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Cyn dechrau’r cwrs Asesydd Arbenigol, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cwblhau’n llwyddiannus y cwrs Gwyddor Anawsterau Llythrennedd a’r cwrs Ymarferydd Arbenigol, oni bai bod Canolfan Dyslecsia Miles wedi derbyn dysgu blaenorol cyfwerth yn ffurfiol.
Gweld y cwrs Asesydd Arbenigol
Drwy gwblhau’r llwybr llawn, byddwch yn datblygu eich gallu i:
- werthuso ymchwil a damcaniaeth gyfredol sy’n ymwneud â datblygiad llythrennedd, anawsterau llythrennedd a dyslecsia
- adnabod cryfderau llythrennedd a meysydd lle mae angen cymorth
- defnyddio gwybodaeth asesu i gynllunio cymorth effeithiol
- cynllunio, darparu a gwerthuso ymyriadau llythrennedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- gweinyddu a dehongli asesiadau llythrennedd arbenigol ac asesiadau seicometrig
- llunio adroddiadau asesu diagnostig proffesiynol
- gwneud argymhellion priodol ar gyfer cymorth, ymyriadau ac addasiadau rhesymol
- gweithio’n foesegol a myfyrio’n feirniadol ar eich ymarfer proffesiynol.
Mae’r dulliau asesu’n amrywio rhwng y tri chwrs a gallant gynnwys:
- aseiniadau ysgrifenedig
- asesiadau a gweithgareddau ar-lein
- portffolio addysgu ymarferol
- sesiynau addysgu wedi’u recordio
- astudiaethau achos
- adroddiadau myfyriol
- tasgau asesu seicometrig
- adroddiadau asesu diagnostig a luniwyd fel ymarfer.
Gweler tudalennau’r cyrsiau unigol am wybodaeth fanwl am yr asesiadau.
Cost y Cwrs
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, y ffi yw £4,750 pan archebir y tri chwrs gyda’i gilydd.
Mae hon yn ffi ostyngol o’i chymharu ag archebu’r tri chwrs ar wahân. Gellir talu ffi’r llwybr llawn mewn tri rhandaliad dros chwe mis. Cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles i drafod y trefniant rhandaliadau.
Codir tâl ychwanegol o £120 am bob asesiad ar ddysgwyr sydd angen defnyddio deunyddiau asesu a ddarperir gan Ganolfan Dyslecsia Miles ar gyfer y cwrs Asesydd Arbenigol. Adolygir y tâl hwn bob mis Medi.
Nid yw ffioedd sefydliadau proffesiynol allanol ar gyfer aelodaeth, cydnabyddiaeth broffesiynol neu Dystysgrif Ymarfer Asesu wedi’u cynnwys yn ffi’r cwrs.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27:
- Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu: £750
- Ymarferydd Arbenigol: Addysgu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia: £2,450
- Asesydd Arbenigol: Asesu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia yn Ymarferol: £1,950
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr:
- feddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn rôl addysgol, therapiwtig neu gymorth dysgu
- meddu ar y sgiliau academaidd, y profiad proffesiynol a’r gallu angenrheidiol i ymgymryd ag astudiaeth broffesiynol ran-amser heriol a gwaith ymarferol asesedig
- meddu ar sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfathrebu cryf
- gallu bodloni gofynion ymarferol y cyrsiau unigol.
Mae’r cwrs Ymarferydd Arbenigol yn gofyn am fynediad at blentyn neu berson ifanc rhwng 6 ac 16 oed a fyddai’n elwa ar ymyriad llythrennedd yn eich gweithle neu mewn sefydliad cysylltiedig.
Cyn dechrau’r cwrs Asesydd Arbenigol, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cwblhau’n llwyddiannus y cwrs Gwyddor Anawsterau Llythrennedd a’r cwrs Ymarferydd Arbenigol, oni bai bod Canolfan Dyslecsia Miles wedi derbyn dysgu blaenorol cyfwerth yn ffurfiol.
Cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles os nad ydych yn siŵr a yw eich cymwysterau, eich profiad neu eich astudiaeth flaenorol yn bodloni’r gofynion.
Cyflwynir yr addysgu ar gyfer y tri chwrs drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ar gyfer Gwyddor Anawsterau Llythrennedd ar gyfer Ymyrryd ac Asesu a’r cwrs Ymarferydd Arbenigol.
Mae rhai adnoddau a pheth gwaith asesedig ar y cwrs Asesydd Arbenigol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, ond rhaid cyflwyno adroddiadau asesu diagnostig ffurfiol yn Saesneg.
Gwneud Cais
Gwneud cais am y llwybr llawn neu gwrs unigol
I wneud cais am y Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol (Anawsterau Dysgu Penodol/Dyslecsia) llawn, neu am unrhyw un o’r tri chwrs DPP unigol, llenwch y ffurflen gais isod.
Bydd y ffurflen yn gofyn ichi ddewis a ydych yn gwneud cais am y llwybr llawn neu am gwrs unigol.
Gwneud cais am y llwybr llawn neu am gwrs unigol
Angen cyngor cyn gwneud cais?
Os hoffech drafod eich cymhwystra, eich nodau o ran achrediad proffesiynol neu’r man cychwyn mwyaf addas, llenwch ein ffurflen ymholi neu cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles:
E-bost: mdc-training@bangor.ac.uk
Gofyn am gyngor gan Ganolfan Dyslecsia Miles
Achrediad proffesiynol
Mae gwneud cais am gwrs DPP Prifysgol Bangor ar wahân i wneud cais am achrediad proffesiynol, aelodaeth neu Dystysgrif Ymarfer Asesu drwy sefydliad proffesiynol allanol.