Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Ymarferydd Arbenigol: Addysgu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia yn gwrs datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) wedi'i asesu, ond nid yw’n cynnwys credydau academaidd. Cyflwynir y cwrs hwn gan Ganolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor.
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn datblygu’r sgiliau addysgu arbenigol sydd eu hangen i gefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia. Byddwch yn dysgu sut i asesu cryfderau llythrennedd a meysydd lle mae angen cymorth, ac i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso ymyriadau llythrennedd wedi’u targedu gan ddefnyddio dulliau amlsynhwyraidd ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Nid yw’r cwrs yn cynnwys credydau academaidd Prifysgol Bangor ac nid yw ei gwblhau’n llwyddiannus yn arwain at gymhwyster academaidd gan Brifysgol Bangor.
Gallwch ddilyn y cwrs hwn yn unigol neu fel rhan o’r Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol.
Gweld y Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Gall y cwrs fod yn addas ar gyfer:
- athrawon
- tiwtoriaid llythrennedd arbenigol
- cynorthwywyr addysgu a staff cymorth dysgu
- ymarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
- therapyddion iaith a lleferydd
- gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau llythrennedd neu ddyslecsia.
Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn rôl addysgol, therapiwtig neu gymorth dysgu. Mae’r gofynion llawn yn yr adran Gofynion Mynediad.
Cyflwyno’r cwrs a’r ymrwymiad astudio
Cyflwynir y cwrs yn hyblyg dros ddeg mis a gellir ei ddilyn ar-lein. Gall y dull cyflwyno gynnwys:
- addysgu byw ar-lein
- deunyddiau dysgu wedi’u recordio
- gweithgareddau dysgu ar-lein
- cymorth a mentora gan diwtoriaid
- gweithgareddau addysgu ymarferol
- sesiynau wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor, pan fyddant ar gael.
Cyflwynir yr addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, gan gynnwys yr ymyriad addysgu ymarferol.
Dylech gynllunio ar gyfer tua 12 awr o astudio annibynnol bob wythnos ochr yn ochr â’r addysgu a’r gweithgareddau ymarferol a drefnwyd.
Asesu
Mae’r asesu’n cynnwys:
- 20 awr o addysgu ymarferol gyda phlentyn neu berson ifanc
- dwy sesiwn addysgu 60 munud wedi’u recordio
- astudiaeth achos yn seiliedig ar y dysgwr sy’n cael yr ymyriad
- portffolio addysgu yn seiliedig ar eich gwaith addysgu ymarferol.
Bydd gweithgareddau ffurfiannol ac adborth gan diwtoriaid yn cefnogi datblygiad eich ymarfer drwy gydol y cwrs. Defnyddir asesiadau crynodol i benderfynu a ydych wedi bodloni gofynion y cwrs.
Tiwtor
Ruth Elliott
Arweinydd DPP Canolfan Dyslecsia Miles
Mae Ruth Elliott yn athrawes ac asesydd arbenigol disgyblion ac oedolion ag anawsterau llythrennedd. Mae’n athrawes gymwysedig ac yn meddu ar AMBDA gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain. Hi yw Arweinydd DPP Canolfan Dyslecsia Miles ac mae hefyd yn creu cynnwys ac yn gweithredu fel cynghorydd ar gyfer prosiect CA:LON.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r cwrs yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gynllunio a chyflwyno ymyriadau llythrennedd arbenigol i blant a phobl ifanc ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia.
Gall y pynciau gynnwys:
- damcaniaethau sy’n ymwneud â dyslecsia ac anawsterau llythrennedd
- ffactorau a all effeithio ar ddatblygiad darllen, sillafu ac ysgrifennu
- anawsterau sy’n cyd-ddigwydd â dyslecsia
- iaith a dysgu, hunan-barch a mathemateg
- dwyieithrwydd a dysgu iaith ychwanegol
- asesu cryfderau llythrennedd a meysydd lle mae angen cymorth
- cynllunio ymyriadau llythrennedd strwythuredig a chronnol
- dulliau addysgu amlsynhwyraidd
- dewis a gwerthuso deunyddiau addysgu ac asesu
- monitro cynnydd ac addasu’r addysgu
- myfyrio’n feirniadol ar ymarfer addysgu arbenigol.
Addysgu ymarferol
Byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno ymyriad llythrennedd gyda phlentyn neu berson ifanc rhwng 6 ac 16 oed. Bydd eich gwaith addysgu ymarferol yn eich galluogi i ddefnyddio’r dulliau a astudir ar y cwrs, gwerthuso cynnydd y dysgwr a myfyrio ar ddatblygiad eich ymarfer proffesiynol eich hun.
Bydd angen ichi gael mynediad at blentyn neu berson ifanc addas drwy eich gweithle neu sefydliad cysylltiedig. Mae’r manylion llawn yn yr adran Gofynion Mynediad.
Cost y Cwrs
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, y ffi am y cwrs unigol hwn yw £2,450.
Os byddwch yn archebu’r tri chwrs fel rhan o’r Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol, cyfanswm y ffi ostyngol yw £4,750.
Gweld y llwybr hyfforddiant proffesiynol llawn
Nid yw ffioedd sefydliadau proffesiynol allanol ar gyfer aelodaeth neu gydnabyddiaeth broffesiynol wedi’u cynnwys yn ffi’r cwrs.
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr:
- feddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn rôl addysgol, therapiwtig neu gymorth dysgu
- meddu ar y sgiliau academaidd, y profiad proffesiynol a’r gallu angenrheidiol i ymgymryd ag astudiaeth broffesiynol ran-amser heriol a gwaith ymarferol asesedig
- meddu ar sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfathrebu cryf
- gallu bodloni gofynion ymarferol y cwrs.
Mae’r cwrs yn gofyn am fynediad at blentyn neu berson ifanc rhwng 6 ac 16 oed a fyddai’n elwa ar ymyriad llythrennedd yn eich gweithle neu mewn sefydliad cysylltiedig.
Cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles os nad ydych yn siŵr a yw eich cymwysterau, eich profiad neu eich mynediad at ddysgwr addas yn bodloni’r gofynion.
Cyflwynir yr addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gyda sesiynau arbenigol ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae adnoddau ar gael a gellir cwblhau asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, gan gynnwys yr ymyriad addysgu ymarferol.
Gwneud Cais
Gwneud cais am y cwrs hwn neu’r llwybr llawn
I wneud cais am Ymarferydd Arbenigol: Addysgu Dysgwyr ag Anawsterau Llythrennedd a Dyslecsia fel cwrs DPP unigol, neu fel rhan o’r Llwybr Hyfforddiant Proffesiynol Athro ac Asesydd Arbenigol llawn, llenwch y ffurflen gais isod.
Bydd y ffurflen yn gofyn ichi ddewis a ydych yn gwneud cais am y llwybr llawn neu am gwrs unigol.
Gwneud cais am y cwrs hwn neu’r llwybr llawn
Angen cyngor cyn gwneud cais?
Os hoffech drafod eich cymhwystra, eich nodau o ran achrediad proffesiynol neu ai hwn yw’r cwrs mwyaf addas ichi, llenwch ein ffurflen ymholi neu cysylltwch â Chanolfan Dyslecsia Miles:
E-bost: mdc-training@bangor.ac.uk
Gofyn am gyngor gan Ganolfan Dyslecsia Miles
Cydnabyddiaeth broffesiynol
Mae gwneud cais am gwrs DPP Prifysgol Bangor ar wahân i wneud cais am gydnabyddiaeth broffesiynol neu aelodaeth drwy sefydliad proffesiynol allanol.