Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Wrth i effaith ddynol ar y byd naturiol ddwysáu, mae angen cynyddol am reolwyr a all helpu i gydbwyso anghenion cymdeithas ag anghenion amgylchedd cynaliadwy. Bydd yr MA Rheolaeth ar gyfer Newid Hinsawdd, sydd â ffocws cryf ar helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd, yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth sydd arnoch eu hangen i wneud newidiadau go iawn ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.
Mae cyfrifoldeb amgylcheddol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol wedi dod yn ffactor amlwg sy'n sbarduno galw gan ddefnyddwyr. Nid oes erioed wedi bod amser gwell i ddewis llwybr gyrfa sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth byd-eang.
Mae ein rhaglen meistr arloesol wedi'i chynllunio i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer cyflawni gweithgarwch economaidd cynaliadwy sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd trwy integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol o fewn arferion busnes. Bydd astudio'r radd MA hon mewn Rheolaeth ar gyfer Newid Hinsawdd yn rhoi’r sgiliau ymarferol sydd arnoch eu hangen i asesu effaith ein gweithredoedd ac ysgogi newid cadarnhaol yn ein cymdeithas a'r byd naturiol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau diddorol ac amserol iawn gyda ffocws ar arferion busnes megis polisi a chyfraith newid hinsawdd, cyfiawnder gwleidyddiaeth amgylcheddol a newid hinsawdd, a chynllunio busnes ar gyfer economi werdd. Gan ddefnyddio astudiaethau achos ar draws amrywiaeth o sectorau, byddwch yn dysgu am strategaethau newidiol a’r dulliau amgen a ddefnyddir gan fusnesau i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau gorfodol (100 credyd):
- Sefydliadau a Phobl (15 credyd)
- Rheolaeth Strategol Rhyngwladol (15 credyd)
- Cyllid i Reolwyr (15 credyd)
- Y Newid yn yr Hinsawdd a Gwleidyddiaeth Cyfiawnder yr Hinsawdd (20 credyd)
- Polisi a Chyfraith Newid Hinsawdd Rhyngwladol (20 credyd)
- Ymchwil Rheoli (15 credyd)
- Traethawd hir neu Projectau Busnes Cymhwysol (60 credyd)
Byddwch hefyd yn cymryd 20 credyd o fodiwlau dewisol a allai gynnwys:
- Rheolaeth Amgylcheddol Strategol (20 credyd)
- Globaleiddio a Newid Cymdeithasol (20 credyd)
- Cynllunio Busnes ar gyfer Economïau Gwyrdd (20 credyd)
- Technolegau Gwyrdd (20 credyd)
Syniad bras yn unig yw'r rhestr o'r modiwlau, ac fe allent newid.
Caiff y cwrs ei addysgu trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Astudiaeth Unigol
- Gwaith grŵp
- Siaradwyr gwadd
- Traethawd hir
- Projectau Busnes Cymhwysol
Mae'r dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir yn amrywio yn ôl pwnc a lefel y modiwl.
Bydd yr asesu’n cynnwys cymysgedd o’r canlynol:
- Arholiadau
- Profion dosbarth
- Traethodau/Adroddiadau
- Aseiniadau Grŵp
- Cyflwyniadau
- Traethawd hir
- Projectau Busnes Cymhwysol
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw’r wybodaeth yma a gall newid.
Gofynion Mynediad
O leiaf 2.ii fel gradd israddedig neu gymhwyster cyfwerth mewn maes pwnc perthnasol (e.e. Astudiaethau’r Amgylchedd, Busnes, Gwyddorau Cymdeithas, Peirianneg, y Gyfraith).
Bydd ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad perthnasol yn y diwydiant, a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried fesul achos. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Sgôr IELTS o 6.0 (heb yr un elfen o dan 5.5), neu gyfwerth os nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
Gyrfaoedd
Trwy astudio'r radd MA hon mewn Rheolaeth ar gyfer Newid Hinsawdd, byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan amrywiaeth eang o gyflogwyr. Mae'r radd wedi'i chynllunio i'ch galluogi i atgyfnerthu gwybodaeth am gynaliadwyedd busnes a'r amgylchedd er mwyn ennill arbenigedd gyda ffocws penodol ar newid hinsawdd.
Byddwch yn meithrin sgiliau arweinyddiaeth ac ymchwil ochr yn ochr ag amrywiaeth o sgiliau proffesiynol a fydd yn eich helpu i ddatblygu busnesau, strategaethau a pholisïau cynaliadwy o fewn y llywodraeth a'r sector preifat a’r sector gwirfoddol/anllywodraethol. Cewch eich annog i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi beirniadol a llunio dadleuon cydlynol ac adeiladol mewn ymateb i rai o'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu'r byd heddiw.
Os hoffech barhau â'ch astudiaethau, bydd y rhaglen hefyd yn eich helpu i baratoi i ymgymryd ag ymchwil doethurol mewn amrywiaeth eang o bynciau sy'n gysylltiedig â gwyddor hinsawdd.
Mae llwybrau gyrfa nodweddiadol yn cynnwys swyddi gyda chyrff anllywodraethol ac ymgyngoriaethau cenedlaethol a rhyngwladol, llywodraethau, asiantaethau diogelu'r amgylchedd, elusennau, sefydliadau ymchwil, y sector cyllid gwyrdd, newyddiaduraeth a’r sector addysgu.
Ymhlith y gyrfaoedd nodweddiadol mae:
- Ymgynghori Amgylcheddol
- Rheoli Cynaliadwyedd
- Rheoleiddio a Pholisi Amgylcheddol
- Gwyddorau'r Amgylchedd
- Rheolwr Lleihau Carbon
- Arbenigwr Cyllid Gwyrdd