Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae angen brys i gefnogi gallu i gynhyrchu trydan drwy ddatblygu technolegau carbon isel. Mae'r môr yn cynrychioli adnodd ynni helaeth a heb ei ddefnyddio gan fwyaf. Gellid ei ddefnyddio fel math o gynhyrchu trydan carbon isel, ac mae llawer o weithgarwch masnachol yn y sector ynni hwn yn ogystal â gwaith ymchwil a datblygu. Nod y radd MSc hon yw rhoi'r sgiliau i fyfyrwyr sydd eu hangen i nodi a mesur potensial rhanbarthau ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy'r môr, gyda phwyslais ar adnodd, dadansoddi cyfres amser, modelu rhifiadol, a'r sialensiau a wynebir wrth roi rhesi o ddyfeisiadau cynhyrchu ynni yn amgylchedd y môr.
Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gennym gysylltiadau helaeth â diwydiant ynni adnewyddadwy'r môr, a bydd llawer o'r projectau ymchwil mewn cydweithrediad â diwydiant. Byddwch hefyd yn dod i gysylltiad â'r diwydiant trwy siaradwyr diwydiannol gwâdd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Caiff dau semester cyntaf y rhaglen eu cyflwyno drwy fodiwlau a addysgir yn y dosbarth - sy’n cyflwyno myfyrwyr i ffiseg y cefnfor ac i’r ffyrdd y gellir defnyddio amgylcheddau morol i gynhyrchu trydan. Rhoddir pwyslais ar dod i ddeall technolegau trosi ynni tonnau a llanw, ochr yn ochr â systemau gwynt ar y môr, a hynny oll yng nghyd-destun ehangach, sef nodweddu adnoddau a lleihau effeithiau amgylcheddol. Mae’r modiwlau’n ymdrin â theori eigionegol a’i chymhwysiad, yn ogystal â modelu rhifiadol ac eigioneg ymarferol. Mae’r elfen ymarferol yn cynnwys cyflwyniad i offer o’r radd flaenaf a modelu rhifiadol, ynghyd â phrofiad ymarferol ar long ymchwil 35 metr o hyd y Brifysgol, sef yr RV Prince Madog. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys modiwl ar arolygu geoffisegol, sy’n addysgu’r technegau a ddefnyddir i arolygu safleoedd addas ar gyfer lleoli tyrbinau gwynt ar y môr, teclynnau ynni tonnau neu ynni’r llanw. Asesir cyflawniad myfyrwyr ar y cwrs drwy gyfuniad o asesu parhaus ac arholiadau modiwl.
Yn ystod yr ail semester, bydd myfyrwyr yn dechrau canolbwyntio ar agweddau penodol ar y pwnc drwy gynnal adolygiad llenyddiaeth helaeth, ac yna ymgymryd â phrosiect ymchwil unigol. Dewisir y prosiect ymchwil, sy’n elfen bwysig o’r cwrs, mewn ymgynghoriad agos â’r myfyriwr er mwyn sicrhau ei fod yn uniongyrchol berthnasol i’r math o waith y mae’n bwriadu ei wneud yn y dyfodol.
Mae gan Ysgol Gwyddorau Eigion gysylltiadau helaeth â’r sector ynni adnewyddadwy ar y môr, a bydd llawer o’r prosiectau’n cael eu cynnal mewn cydweithrediad â diwydiant. Anogir myfyrwyr rhyngwladol i ddatblygu prosiectau cadarn sy’n seiliedig ar ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal mewn sefydliad yn eu mamwlad.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ynni Adnewyddadwy Alltraeth MSc.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, mae gan ymgeiswyr llwyddiannus radd Anrhydedd is-radd dda mewn maes pwnc perthnasol, neu maent yn disgwyl cael gradd o'r fath. Anogir ymgeiswyr o feysydd pwnc eraill, neu sydd â phrofiad o waith cyflogedig perthnasol, i wneud cais, ar yr amod eu bod yn gallu dangos lefelau uchel o gymhelliant a phrofiad yn eu Datganiad Personol a'u CV, a chyda sylfaen addas mewn mathemateg.
IELTS: Gofynnir am 6.0 (heb gynnwys yr un elfen o dan 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd galw mawr am raddedigion ar draws sector ynni adnewyddadwy'r môr, gan weithio i ddatblygwyr dyfeisiau fel dadansoddwyr adnoddau, mynd i mewn i ymgynghoriaethau eigioneg sy'n gweithio ar astudiaethau yn y fan a'r lle, ac astudiaethau modelu ar gyfer y diwydiant tonnau a llanw, arolygu geoffisegol i'r diwydiant, cyfleoedd i weithio ar isadeiledd grid (Natoinal Grid) a cheblau, cyrff prydlesu fel Ystâd y Goron, a gweithio i gyrff amgylcheddol a noddir gan y llywodraeth fel Asiantaeth yr Amgylchedd, yn asesu effeithiau amgylcheddol.