7 Ages of Man: John Hywel
Digwyddiad anffurfiol fydd yn amlygu cerddoriaeth gan John Hywel, cyfansoddwr a chyn-ddarlithydd a phennaeth yr adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a pherfformiad gan aelodau o Gerddorfa Symffoni’r Brifysgol. Rydym wrth ein bodd bod John wedi cytuno i fod yn bresennol ar y noson.
Mae Ensemble Cymru - mewn cydweithrediad â Pontio, Cyfarwyddwr Cerdd, Gwyn L Williams a staff a myfyrwyr yr adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor - yn falch o dalu teyrnged i John Hywel ac i’w gyfraniad sylweddol hanesyddol i greu-cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yng Ngogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd.
Rhaglen:
RACHMANINOFF, Sergei – Triawd Élégiaque rhif 1 yn G leiaf
HYWEL, John – The Seven Ages of Man (1969) i lefarydd a phedwarawd chwythbren.
Perfformwyr:
Ensemble Cymru
Llefarydd – Philip Smith (La Boheme – Puccini, Opera Canolbarth Cymru
Ffliwt – Nicola Woodward
Obo – Huw Clement-Evans
Clarinét – Peryn Clement-Evans
Basŵn – Alanna Macfarlane
Triawd Piano: Mae aelodau’r triawd yn cynnwys aelodau Cerddorfa Symffoni y Brifysgol a myfyrwyr Prifysgol Bangor
Feiolin – Katrina Perre
Sielo – Ellie Billingham
Piano – Elliot Smith-Rasmussen
Cydnabyddiaeth
Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones ac i gefnogwyr hael Ensemble Cymru am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.