Dewch i Ddarganfod Sefydliad Confucius: Diwrnodau Agored!
Dewch i ddysgu am Ddiwylliant, Celfyddydau a Thraddodiadau Tsieina
Thema’r Wythnos: Gweithdy Torri Papur Tsieineaidd Traddodiadol
Archwiliwch y grefft o dorri papur a chreu dyluniadau cywrain wedi'u hysbrydoli gan lên gwerin a symbolau Tsieineaidd.
Ymunwch â ni yn Sefydliad Confucius am gyfres gyffrous o ddiwrnodau agored, a gynigir ar sail y cyntaf i'r felin.
P'un a ydych eisiau dysgu am draddodiadau Tsieineaidd, yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd, neu eisiau cysylltu â ni, mae gennym rywbeth at ddant pawb.
Beth i'w Ddisgwyl:
- Gweithdai Wythnosol: Celf, Crefft, Cerddoriaeth a Mwy!
- Arddangosiadau Diwylliannol: Thema newydd bob wythnos.
- Te a Bisgedi: Ymlaciwch a mwynhewch wrth ddysgu.
Lleoedd ar gael: Dim ond lle i 20 o fyfyrwyr sydd ym mhob sesiwn. Cofiwch gyrraedd yn gynnar!