Serendipedd 2
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal Serendipedd 2. Dyma gyflwyniad gwych i'r holl glybiau a chymdeithasau arbennig sydd ar gael yma ym Mangor. Os gwnaethoch fethu’r digwyddiad cyntaf yn yr wythnos groeso, gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu hwn at eich dyddiaduron!