Sesiwn Meistr mewn Theatr Cerdd gyda Welsh of the West End
Rydym yn gwahodd pobl ifanc 16-21 oed i ddathlu Canmlwyddiant Cerdd ym Mhrifysgol Bangor, a datblygiadau'r Brifysgol mewn astudiaethau Cerdd a Drama.
Pris: AM DDIM
Rydym yn gwahodd pobl ifanc 16-21 oed i ddathlu Canmlwyddiant Cerdd ym Mhrifysgol Bangor, a datblygiadau'r Brifysgol mewn astudiaethau Cerdd a Drama.
Bydd y Gweithdy Meistr hwn yn gyfle i brofi, mwynhau a dysgu o dalentau cantorion a chynhyrchwyr gwych ym myd y Sioe Gerdd.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc sydd â diddordeb mewn canu sioeau cerdd (yn y Gymraeg a'r Saesneg) i un ai cymryd rhan a gwylio eraill wedyn mynd ati i ganu; neu eich bod yn dod a cherddoriaeth eich hunain yn barod i ganu.
Mae'r Dosbarth Meistr hwn wedi'i drefnu gan Adran Cerdd, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Pontio.
Lle i 15 - 20 o bobl ifanc.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ffion Evans: ffion.haf@bangor.ac.uk