Fy ngwlad:
A headshot of Christian Boulanger

Mae’r sgwrs yn cyflwyno canlyniadau cyntaf project ymchwil dwywladol sy’n archwilio cyfuchliniau a diwylliannau maes y gyfraith a chymdeithas yn yr Almaen a’r Deyrnas Unedig. Defnyddia'r project ddull cymysg uchelgeisiol sy'n cyfuno data ansoddol o gyfweliadau, data meintiol o arolwg a data bibliometrig am gynhyrchiant gwybodaeth gymdeithasol-gyfreithiol. Gan ddefnyddio enghreifftiau dethol o’n set ddata, rydym yn dangos mor wahanol yw’r sefyllfa i ysgolheigion cymdeithasol-gyfreithiol yn yr Almaen ac yn y Deyrnas Unedig. Yn seiliedig ar y diagnosis hwn, rydym yn cyflwyno rhai rhagdybiaethau rhagarweiniol sy'n esbonio sut mae'r gwahanol lwybrau hyn wedi datblygu.