Mae Graddfa Gwytnwch Dementia Bangor (BDRS) yn holiadur sy’n mesur gwytnwch ymysg pobl sy'n byw gyda dementia. Gall fod yn ddefnyddiol wrth nodi cryfderau a meysydd lle bydd angen mwy o help o ran gofal a chymorth da sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy'n byw gyda dementia. Gall y BDRS hefyd fod yn ddull defnyddiol sy’n seiliedig ar gryfderau ar gyfer gwerthuso i ba raddau y mae ymyriadau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwella gwytnwch.
Datblygwyd yn: Prifysgol Bangor, Cymru mewn cydweithrediad â Choleg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Nipissing, Canada.
Y Tîm: Gill Windle, Jennifer Rhiannon Roberts, Catherine Anne MacLeod, Zoe Hoare, Mary Pat Sullivan, Emilie Brotherhood, Joshua Stott, Paul Camic and Sebastian Crutch.
Nifer o gwestiynau: 19
Parthiau: ‘Agwedd’, ‘Addasiad’, ‘Derbyn’, ‘cymorth cymunedol a chymheiriaid’ a ‘teulu a ffrindiau’.
Cyfanswm y sgôr: Sgoriau cymedrig o fewn pob parth wedi’u cyfrifo, yn arwain at sgôr rhwng 5 a 25.
Mae'r gwaith yn dilyn methodoleg drylwyr ar gyfer datblygu graddfeydd mesur iechyd. Roedd y camau datblygu’n cynnwys 1) adolygiad systematig a gwerthusiad seicometrig o raddfeydd mesur gwytnwch presennol a ddefnyddir gyda phobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr, gan ganfod nad oedd unrhyw fesurau wedi’u datblygu gyda, ac ar gyfer, pobl sy’n byw gyda dementia; 2) datblygu fframwaith cysyniadol newydd o wytnwch ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia trwy archwilio llenyddiaeth academaidd a siarad â phobl sy'n byw gyda dementia, a'u gofalwyr; 3) defnyddio'r fframwaith hwnnw i ddrafftio cwestiynau a'u treialu gyda gweithwyr proffesiynol, pobl sy'n byw gyda dementia, a'u gofalwyr; a 4) cynnal prawf maes ar ddrafft o’r mesur gyda 193 o bobl yn byw gyda dementia. Arweiniodd y broses hon at 19 eitem derfynol a Graddfa Gwytnwch Dementia Bangor.
Gallwch ddysgu mwy am bob cam yn y cyhoeddiadau canlynol:
- A systematic review and psychometric evaluation of resilience measurement scales for people living with dementia and their carers (Windle et al., 2022)
- 'I have never bounced back': resilience and living with dementia (Windle et al., 2023)
- Development of an item pool for a patient reported outcome measure of resilience for people living with dementia (Roberts et al., 2023)
- The psychometric properties of a new outcome measure of resilience for people living with dementia: The Bangor Dementia Resilience Scale (Roberts et al., 2025)
© Prifysgol Bangor (2024). Cedwir pob hawl a dim atgynhyrchu heb ganiatâd.
Mae Graddfa Gwytnwch Dementia Bangor © 2024 wedi ei drwyddedu gan Brifysgol Bangor o dan y canlynol: Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0 International.
Mae'r raddfa yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac ar gael i'r cyhoedd. Gellir ei ddefnyddio heb yr angen i gael caniatâd, yn amodol ar gydnabyddiaeth mewn cyhoeddiadau.
cliciwch yma I lenwi ffurflen fer (2 gwestiwn) i gael mynediad at Raddfa Gwydn
Os hoffech addasu neu gyfieithu’r mesur, cysylltwch â dsdc@bangor.ac.uk i ofyn am ganiatâd.
Rydym yn argymell printio ar bapur lliw golau. Mae hyn yn seiliedig ar awgrymiadau pobl sy'n byw gyda dementia sydd wedi llywio'r gwaith yma.