Fy ngwlad:
Llun addurniadol

Canolfan Ymchwil CDGD Cymru

Sefydlwyd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym 1999, a hi oedd aelod cyntaf rhwydwaith o ganolfannau datblygu gwasanaethau dementia ar draws y DU ac Iwerddon. Mae'r Ganolfan yn ran o Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. 

 

Ar y dudalen yma:

Amdanom Ni

Llun addurniadol

Croeso i Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru

Ein nod yw gwella ansawdd bywyd a lles pobl hŷn a phobl â dementia a'u cefnogwyr, trwy gynnal a chymhwyso ymchwil berthnasol. Rydym yn adnabyddus yn rhyngwladol am:

  • Ein hymchwil o ansawdd uchel mewn meysydd yn cynnwys gwytnwch, heneiddio'n dda, lles gofalwyr, a gweithio rhwng cenedlaethau.
  • Datblygu a gwerthuso ymyriadau seicogymdeithasol ar gyfer pobl â dementia a gofalwyr.
  • Ein cyfraniad at ddatblygu a gweithredu polisi.
  • Cyflwyno hyfforddiant ar sail tystiolaeth a chyngor i bawb sy'n ceisio gwella ansawdd bywyd, gofal a chefnogaeth i bobl â dementia a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
  • Creu a chefnogi Rhwydweithiau Dementia yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Llun proffil o Chris Roberts mewn gwisg graddio goch

Cymrodoriaeth er Anrhydedd Chris Roberts

"Mae DSDC Cymru yn gweithio'n agos hefo phawb sydd wedi'i heffeithio gan ddementia, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, i sicrhau bod eu hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n bywydau, gan wella ansawdd gofal a llywio datblygiad polisi ac ymarfer."

Ymchwil yn Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru

Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ymchwil heneiddio a dementia rhyngddisgyblaethol.  Mae ein gwaith wedi'i leoli o fewn y duedd fyd-eang ar gyfer hirhoedledd ac uchelgeisiau polisi rhyngwladol ar gyfer heneiddio'n iach, gan fynd i'r afael â heriau cymdeithasol mawr sy'n ymwneud â byw cystal â phosibl gyda chyflyrau iechyd cronig a dirywiol, gan arbenigo mewn ymchwil dementia.

Rydym yn gweithio'n agos gyda phobl hŷn, pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, ynghyd â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau y bydd ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth, yn gwella ansawdd gofal ac yn llywio datblygiad polisi ac ymarfer.

Mae ein prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys arweinyddiaeth a/neu gydweithio ar yr ymchwil ganlynol:

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Mae pobl eisiau cymryd rhan mewn ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol am lawer o resymau:

I wella iechyd a gofal cymdeithasol i eraill, yn ogystal â rhoi gobaith i genedlaethau'r dyfodol.
I ddysgu mwy am eu cyflwr.
I roi cynnig ar driniaeth, therapi neu ddyfais newydd.
I helpu ymchwilwyr i ddysgu gwybodaeth newydd bwysig.
I llywio datblygiad polisïau iechyd a gofal cymdeithasol.
(Ffynhonnell: Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd)

I drafod cyfleoedd i gymryd rhan, cysylltwch â dsdc@bangor.ac.uk, 01248 383050

Cyd-ddylunio a datblygu Rhaglen Cymorth Cyfoedion ar-lein ar gyfer Gofalwyr Dementia Ifanc

Beth ydym ni eisiau ei gyflawni? 
Rydym ni eisiau datblygu Rhaglen Cymorth Cyfoedion ar-lein ar gyfer Gofalwyr Dementia Ifanc sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion er mwyn helpu i gefnogi eu lles a'u hannog i ofyn am gymorth. I wneud hyn rydym ni eisiau gweithio gyda nhw ond hefyd gyda'u rhieni/gwarcheidwaid a gweithwyr proffesiynol. 

Pwy all gymryd rhan? 
Rydym yn gwahodd: 

  • Pobl ifanc rhwng 11 a 16 oed sydd â rhiant/gwarcheidwad/aelod o'r teulu sy'n byw gyda dementia.
  • Eu rhieni/gwarcheidwaid.
  • Gweithwyr proffesiynol sydd, fel rhan o'u rôl, â chyswllt rheolaidd â phobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd a/neu ofalwyr ifanc. 
     

I ddysgu mwy:

 

Fideo: Cyd-ddylunio Rhaglen Cymorth Cyfoedion ar-lein ar gyfer Gofalwyr Dementia Ifanc

 

Mae pobl sy'n byw gyda dementia a'u perthnasau sy’n gofalu amdanynt wedi bod yn cyfarfod â myfyrwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor fel y “grŵp Caban” ers 2017.

Mae grŵp Caban yn gweithio'n agos gyda staff academaidd a myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ac Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i helpu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac ymchwilwyr i ddeall beth sy'n bwysig i bobl sy'n byw gyda dementia, a'r ffordd orau i'w cefnogi.

Mae'r aelodau hefyd wedi addysgu staff iechyd a gofal cymdeithasol y presennol a’r dyfodol trwy sesiynau ymwybyddiaeth, ymgynghoriadau a chyflwyniadau mewn grwpiau bach, digwyddiadau hyfforddi a chynadleddau. Mae nhw hefyd wedi perfformio archwiliadau dementia ar gyfer lleoedd cyhoeddus fel yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol, gan rannu eu profiadau o le i arwain at welliannau.

Mae ein haelodau’n dweud:

“Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn achubiaeth i mi. Mae gwneud sesiynau hyfforddi i fyfyrwyr yn gwneud i mi deimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth. Mae teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a’ch bod yn cyfrannu mor bwysig i iechyd meddwl a lles rhywun”.

“Er fy mod braidd yn amheus i ddechrau, mi wnes i fwynhau cymryd rhan mewn ymchwil ac mae'n rhywbeth rydw i’n medru ei wneud. Roeddwn i'n teimlo’n ddefnyddiol ac yn teimlo fy mod yn cyfrannu at gymdeithas eto”.

Beth allwn ei wneud?

  • Ymuno â sgyrsiau gyda myfyrwyr neu ymchwilwyr.
  • Helpu creu adnoddau i bobl eraill gyda dementia.
  • Gall y sesiynau fod ym Mangor neu ar-lein.
  • Chi fydd yn dewis faint rydych eisiau gyfrannu ac ym mha ffordd.
  • Rydym yn talu costau

 

Mae diagnosis a phrofiad pawb o fyw gyda dementia yn wahanol. Hoffai ein myfyrwyr a’n hymchwilwyr ddysgu o'ch profiadau er mwyn deall yn well sut i'ch cefnogi i allu byw cystal â phosib gyda dementia.

Cysylltwch â Jen Roberts am sgwrs anffurfiol:

Decorative image

Mae Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) Cymru yn cael ei gynnal gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae'n rwydwaith ymchwil Cymru gyfan o gartrefi gofal sy'n cefnogi cyflwyno a hwyluso ymchwil o ansawdd uchel sy'n mynd i'r afael â materion cyfredol yn y sector cartrefi gofal.

Mae'r rhwydwaith yn hyrwyddo cyfnewid syniadau a gwybodaeth, ac yn meithrin cyd-greu ymchwil ledled y wlad drwy ddod â staff cartrefi gofal, preswylwyr a'u teuluoedd at ei gilydd gydag ymchwilwyr.

Mae lle yn y rhwydwaith i bob cartref gofal sydd â diddordeb ymuno, p’un a ydych eisiau cael y newyddion diweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil neu os ydych chi’n barod i gynorthwyo drwy gyflawni ymchwil yn eich cartref chi.

Mae aelodau rhwydwaith ENRICH Cymru yn derbyn:

  • Diweddariadau rheolaidd am gyfleoedd ymchwil sydd ar y gweill yng Nghymru a’r datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil a datblygu cartrefi gofal ledled y DU
  • Hyfforddiant ar-lein am ddim
  • Cyngor a chymorth ar oresgyn yr heriau o ran cyflenwi ymchwil mewn cartrefi gofal
  • Cefnogaeth i nodi cartrefi gofal a phreswylwyr i gynorthwyo astudiaethau

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ENRICH Cymru 

Rydym yn falch o fod yn rhan o PAAR-Net: Dulliau cyfranogol gydag oedolion hŷn, rhwydwaith ymchwil rhyngwladol a gefnogir gan COST Action (CA22167) ac a gydlynir gan Brifysgol Jagiellonian yn Kraków.

Mae PAAR-Net wedi ymrwymo i ailystyried sut mae oedolion hŷn yn ymwneud ag ymchwil, llunio polisïau ac ymarfer. Mae'r project yn hyrwyddo gweledigaeth o wyddoniaeth sy'n gynhwysol, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar bobl - gwyddoniaeth i'r bobl, gan y bobl.

Trwy annog dulliau cyfranogol gydag oedolion hŷn, nod PAAR-Net yw gwneud cymdeithasau sy'n heneiddio yn fwy teg, cynhwysol a chynaliadwy. Mae cynnwys oedolion hŷn yn uniongyrchol yn helpu sicrhau bod polisïau, ymchwil a gwasanaethau yn adlewyrchu eu hanghenion, eu profiadau a'u gobeithion. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau mwy effeithiol ac yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb i oedolion hŷn ar draws gwahanol ddiwylliannau a gwledydd.

Prif nod PAAR-Net yw cau'r bwlch rhwng ymchwil academaidd a llunio polisïau yn y byd go iawn trwy hyrwyddo gwybodaeth a gynhyrchir ar y cyd ag oedolion hŷn. 

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys dros 400 o ymchwilwyr o fwy na 40 o wledydd sydd yn cydweithio er mwyn:

  • Cynnal digwyddiadau rhyngwladol, gan gynnwys ysgolion hyfforddi a chyfarfodydd cyfnewid gwybodaeth;
  • Cefnogi ymweliadau gwyddonol tymor byr;
  • Dyfarnu grantiau ar gyfer ymchwil annibynnol a chymryd rhan mewn cynadleddau;
  • Cynhyrchu cyhoeddiadau gwyddonol, briffiau polisi a deunyddiau a grëir ar y cyd ag oedolion hŷn.
     

Mae gwaith PAAR-Net wedi ei drefnu'n bedwar prif faes:

  • Iechyd, gofal a chefnogaeth;
  • Cymuned a lle;
  • Technoleg ac arloesi;
  • Synthesis a Safonau Ansawdd ar gyfer Ymchwil Cyfranogol.

 

Mae'r fenter hefyd yn cynnwys fforwm ymchwilwyr ac arloeswyr ifanc a grŵp cyd-grewyr hŷn, gan sicrhau cyfranogiad cryf gan ysgolheigion ifanc ac oedolion hŷn eu hunain.

Mae croeso i ymchwilwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sydd ag arbenigedd perthnasol ymuno â PAAR-Net. Os yw eich gwaith yn ymwneud â dulliau cyfranogol ac unrhyw un o brif feysydd y project, rydym yn eich annog i gymryd rhan.

Am fwy o fanylion ac i ddysgu sut i ymuno, ewch i wefan swyddogol y project:  PAAR-Net 

Mae #SCIL yn ganolfan gysylltu i bobl o gefndiroedd amrywiol, sy'n gweithio gyda'i gilydd oherwydd eu diddordeb cyffredin mewn creu amgylcheddau trawsnewidiol, datblygu cydweithrediadau ac ysgogi arloesedd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol.

Datblygu # SCIL 

Dyfeisiwyd y syniad #SCIL gan Steven Baker sawl blwyddyn yn ôl i gydnabod bod angen atebion newydd ar gyfer penblethau mewn gofal cymdeithasol yr ydym wedi bod yn siarad amdanynt ers degawdau. Pam labordy? Mae labordai yn lleoedd ar gyfer archwilio, sydd ar wahân i fywyd bob dydd ac felly'n darparu lle diogel i ganolbwyntio ar ddyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth.

Dywedodd Steven Baker ym mis Awst 2018: "Drwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi gweld pobl yn gweithio gyda'i gilydd, yn bennaf o safbwynt eu rolau. Rolau fel gweithwyr cymdeithasol neu ddefnyddwyr gwasanaethau… A… weithiau, rydw i wedi gweld pobl yn gweithio ar bynciau pwysig gyda'i gilydd oherwydd ei fod yn bwysig iddyn nhw… Yn creu'r datblygiadau drawsnewidiol sy'n gwneud gwahaniaeth mawr!"

Cydnabod cymhlethdod
Mae #SCIL wedi'i seilio ar fewnwelediadau gan Weaver (1948) sy'n awgrymu y dylem "roi'r gorau i feddwl am wyddoniaeth o ran ei llwyddiannau aruthrol wrth ddatrys problemau syml" a chanolbwyntio yn lle hynny ar ddod o hyd i atebion i'r problemau cymhleth y mae pobl yn eu profi.

Cyfnewid gwybodaeth a syniadau trawsnewidiol

Mae #SCIL yn credu y gall syniadau trawsnewidiol ddeillio o ddod â phobl o safbwyntiau amrywiol gyda'u gilydd mewn gofod cefnogol a'u galluogi i gael y rhyddid i siarad a meddwl gyda'i gilydd fel unigolion. Mae #SCILs yn galluogi pobl i gyfnewid syniadau, profiad a thystiolaeth. Mae'n gysyniad syml, ond un sydd yn anaml yn cael ei gynnig:

•    Nid yw'n safonol gofyn yr un cwestiwn i lawer o bobl sydd i gyd yn gweld pwnc o safbwyntiau gwahanol.
•    Mae'n anarferol i'r holl bobl hyn gael y cyfle i feddwl gyda'i gilydd.
 

Mannau diogel ar gyfer meddwl gyda'n gilydd
Nid oes #SCIL ‘nodweddiadol’ oherwydd bod pob labordy wedi'i gynllunio ar gyfer anghenion y sefyllfa. Rydym wedi cynnal #SCIL wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Mae pob labordy #SCIL yn cynnig lle diogel a chyfforddus i rannu syniadau a dealltwriaethau.

An image depicting the elements of social care innovation lab


Ein Gweledigaeth Ni

Mae #SCIL yn fudiad o bobl sy'n chwilio am atebion newydd i broblemau cyfarwydd gofal cymdeithasol. Ein Hamcanion:

Cynnwys pawb
Cysylltiadau ystyrlon a thrafodaethau agored - mae pawb yn bwysig

Arloesol
Mannau diogel ac ar wahân ar gyfer profi syniadau - arloesi trwy arbrofi

Gwella
Creu tystiolaeth a'r hyder i ddefnyddio gwyddoniaeth mewn gofal cymdeithasol - rydym yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol 

 

Cadw mewn Cysylltiad: 

Diane Seddon (Prifysgol Bangor; Darllennydd ac Arweinydd Ymchwil  a Gofal Cymdeithasol): d.seddon@bangor.ac.uk / 01248 388220

Gill Toms (Prifysgol Bangor; Swyddog Ymchwil a Datblygu, Ysgol Ymchwil a Gofal Cymdeithasol Cymru): g.toms@bangor.ac.uk / 01248 388463


Roedd #SCIL yn cael ei gynnal ar y cyd gan y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ac Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru (WSSCR), oedd yn gweithio gyda'i gilydd i gynnig ymchwil sylfaenol hanfodol, datblygu cryfderau ymchwil allweddol a chydweithredu a hyrwyddo gwell integreiddio o ran ymchwil, polisi ac ymarfer.

 

Codi Arian a Rhoddion

Derbynnir yn ddiolchgar unrhyw roddion tuag at Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru.

Isod mae rhai enghreifftiau o sut y gallwn ddefnyddio rhoddion i rannu gwybodaeth, datblygu sgiliau, hybu ymchwil, a chefnogi gofal yn yr ardal leol:

  • Bwrsariaethau teithio i bobl â dementia a gofalwyr i ddod i'n digwyddiadau.
  • Cefnogi cyfranogiad y cyhoedd mewn datblygu ymchwil.
  • Cynnal seminarau cyhoeddus.
  • Cyflwyno gweithdai datblygiad proffesiynol.
  • Cyflwyno digwyddiadau hyfforddi.
  • Datblygu deunydd adnoddau gyda'r nod o wella gofal pobl â dementia.
  • Cefnogi gweithgareddau a mentrau'r Rhwydweithiau Dementia rhanbarthol.
  • Ariannu interniaethau myfyrwyr haf.
  • Ariannu efrydiaethau ymchwil.
     

Os ydych chi'n ystyried rhoi rhodd i Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru , neu gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch â ni i drafod unrhyw ofynion sydd gennych chi.

Gellir rhoi rhoddion drwy siec, yn daladwy i ‘Prifysgol Bangor’. Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu'n benodol i Ganolfan Ymchwil CDGD Cymru.

Anfonwch unrhyw sieciau rhodd at:
Ysgrifennydd Prosiectau CDGD,
CDGD Cymru, Prifysgol Bangor,
Ardudwy, Safle’r Normal,
Bangor, Gwynedd,
LL57 2PZ, DU
Ffôn: 01248 383050
Ebost: dsdc@bangor.ac.uk


Cydnabyddir Prifysgol Bangor fel elusen (Elusen Gofrestredig Rhif 1141565).
 

Cysylltwch â ni

Fron Heulog, Bangor, Gwynedd. LL57 2EF

Fron Heulog, Bangor, Gwynedd. LL57 2EF