Cofrestru Diddordeb Mewn Gradd Nyrsio Yn Dechrau Mawrth
Pam Dechrau Gradd Nyrsio Ym Mis Mawrth 2026?
Graddio’n Gyflymach
Drwy ddechrau eich astudiaethau ym mis Mawrth, gallwch gwblhau eich gradd yn gynharach yn y calendr, gan eich helpu i fynd i’r gweithlu a dechrau eich gyrfa nyrsio cyn gynted â phosibl.
Curo’r Gystadleuaeth
Mae galw mawr am nyrsys. Drwy gymhwyso’n gynharach, gallwch symud i gyflogaeth ar adeg pan fo’r GIG a darparwyr gofal iechyd yn chwilio’n weithredol am nyrsys newydd.
Pwynt Mynediad Hyblyg
Os gwnaethoch golli’r mynediad mis Medi neu benderfynu’n hwyr, mae mynediad mis Mawrth yn rhoi ail gyfle heb orfod aros blwyddyn gyfan.
Momentwm Parhaus
Delfryol ar gyfer myfyrwyr sydd ddim eisiau bwlch hir ar ôl astudiaethau neu waith blaenorol - cadwch eich momentwm dysgu i fynd.
Anghenion Gweithlu’r GIG
Mae’r GIG yn awyddus i gael nyrsys. Mae dechrau ym mis Mawrth yn helpu i gwrdd â’r galw’n gynt ac yn cefnogi’r system gofal iechyd.
Buddiannau Ariannol
Mae graddio’n gynharach yn golygu cyflogaeth yn gynharach, a all leihau pwysau ariannol a’ch helpu i ad-dalu benthyciadau yn gynt.
Carfan Lai = Mwy o Gymorth
Mae mynediad mis Mawrth yn aml yn cynnwys grwpiau llai, sy’n golygu mwy o sylw personol gan ddarlithwyr a gwell mynediad at leoliadau.
Cyfleoedd Lleoliad
Gall rhai lleoliadau clinigol fod â llai o gystadleuaeth yn y gwanwyn, gan roi mwy o ddewis a phrofiad i chi.
Cynnydd Gyrfa
Gall dechrau’n gynharach roi mantais i chi ar hyfforddiant arbenigol neu gyfleoedd ôl-raddedig.
Ymateb i Newidiadau Bywyd
Rydym yn croesawu myfyrwyr aeddfed a’r rhai sy’n dychwelyd i addysg gyda llwybrau hyblyg a chynhwysol. Mae dechrau ym mis Mawrth yn golygu y gallwch newid eich gyrfa’n gynt ac osgoi disgwyl misoedd i ddechrau.
Gofynion Mynediad Gradd Nyrsio Sydd yn Dechrau Mis Mawrth 2026
- Pum TGAU gradd C/4 neu uwch (neu gymhwyster sy'n cyfateb ac yn cael ei gydnabod), gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a thystiolaeth o sgiliau TG.
- Rhaid i chi hefyd fod wedi astudio’n ddiweddar ar Lefel 3 neu uwch (o fewn y pum mlynedd diwethaf), megis Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymhwyster cydnabyddedig arall.
- Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, cysylltwch â ni am gyngor.
Gwylio - Astudio Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor
360 Taith Rithwir Gwyddorau Iechyd
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Nyrsio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Nyrsio llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Nyrsio ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Nyrsio ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?