Fy enw i yw Evie Mainwaring, rwy'n dod yn wreiddiol o Bontypridd yn ne Cymru, ond symudais i Loegr pan oeddwn yn 14 oed. Rwyf bellach yn byw ger Y Felinheli ers 5 mlynedd. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio fel Gwyddonydd Labordy yn Pennotec. Mae Pennotec yn fusnes Biotechnoleg wedi'i leoli ger Pwllheli, Gwynedd, sy'n ymgymryd â datrysiadau economi gylchol gynaliadwy i liniaru amrywiaeth o broblemau amgylcheddol.
Rwyf wedi graddio gyda gradd Anrhydedd mewn Bioleg Môr ac Eigioneg a gradd Meistr mewn Bioleg Môr o Brifysgol Bangor. Penderfynais astudio bioleg môr ym Mhrifysgol Bangor oherwydd lleoliad y brifysgol ond hefyd y cydrannau labordy a gwaith maes, a oedd yn caniatáu i mi wella fy sgiliau gwaith maes. Roeddwn hefyd yn gwerthfawrogi fod Prifysgol Bangor yn cynnig mynediad am ddim i gymdeithasau, a oedd yn fy ngalluogi i fynd i blymio’n aml gyda Sub Aqua, gan arwain at ennill fy nghymhwyster siwt sych.
Mae Bangor wedi’i hamgylchynu gan harddwch naturiol, o’r mynyddoedd i’r traethau, ac mae’n wych i astudio bioleg môr a chydrannau daearyddol eigioneg.
Wrth weithio’n galed a bod â natur benderfynol, llwyddais i ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a Rhagoriaeth yn fy ngradd meistr. Roeddwn yn ffodus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Athena Swan i allu parhau i astudio fy ngradd Meistr ym Mhrifysgol Bangor. Trwy gydol yr ysgoloriaeth hon, cymerais ran mewn digwyddiadau gan gynnwys un ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, lle rhannais fy mhrofiadau personol o STEM.
Yn ystod fy ngradd Meistr, cefais hefyd gyfle i ennill profiad labordy rhyngwladol yn Ynysoedd Philippines. Roedd fy ymchwil yn canolbwyntio ar nodi helaethrwydd a dosbarthiad llygredd microblastigion mewn gwaddodion mangrof. Caniataodd y profiad rhyngwladol hwn i mi weithio mewn gwahanol hinsoddau, nid yn unig yn y maes, ond hefyd i brofi gwahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau gwaith.
Un o fy nyheadau yw adeiladu ar fy nghefndir mewn bioleg môr a fy nghariad at ddeifio i gyfrannu at ymchwil a chadwraeth yn uniongyrchol yn yr amgylchedd morol. Rwy’n gweithio yn Pennotec ar hyn o bryd, ac rwy'n cael mewnwelediad gwerthfawr i brosesau moleciwlaidd sydd yr un mor bwysig wrth ddeall bywyd morol. Rwyf hefyd yn mwynhau heriau ymchwil a datblygu ac ymchwilio i ddulliau i oresgyn yr heriau hyn. Mae'r sgiliau rwy'n eu datblygu yn y labordy yn fy ngalluogi i ymdrin â bioleg môr o safbwynt biocemegol ac ecolegol, gan fy ngwneud yn fwy cymwys i fynd i'r afael â heriau megis cadw riffiau cwrel trwy ddeall goblygiadau cemegol ar organebau morol. Mae fy rôl bresennol yn Pennotec wedi fy helpu i ehangu fy sgiliau cemeg wrth barhau i gysylltu ag anifeiliaid cramennog ac adnoddau morol cynaliadwy.
Mae fy swydd yn cynnwys casglu a dadansoddi data labordy, datblygu technegau i wella dulliau blaenorol o ddadansoddi bioddeunyddiau a chreu dulliau newydd.
Rwyf hefyd yn datblygu galluoedd mewn cemeg ymarferol, gan gynnwys paratoi citin a chitosan. Yn ogystal â hynny, rwy’n paratoi adroddiadau technegol mewnol ar gyfer dadansoddi data a gasglwyd a chefnogi'r busnes trwy farchnata-gyfathrebu.
Rwy'n hoff iawn o'r gwerthoedd y mae Pennotec yn canolbwyntio arnynt, megis creu cynhyrchion a phrosesau cynaliadwy sydd o fudd i iechyd, yr amgylchedd a lles cymdeithasol. Mae'r gwaith yma hefyd yn cyd-fynd â'm barn ar ddatrysiadau cynaliadwy i liniaru goblygiadau amgylcheddol. Mae barn y cwmni ar yr economi gylchol yn bwysig i gynorthwyo arloesedd cynhyrchion newydd, ond hefyd i wella dulliau a datrysiadau eraill. Hoffwn ychwanegu hefyd fod y tîm yn groesawgar iawn (waeth faint o gwestiynau rwy’n gofyn), ac mae’r saith mis yr wyf wedi bod yma wedi bod yn brysur iawn gyda phrojectau newydd, yr wyf wedi eu mwynhau ac wedi cael y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a chefnogi’r gwaith o adeiladu ar brofiad blaenorol.
Fy nghynllun wrth symud ymlaen yw parhau i gyfrannu at weledigaeth y cwmni wrth archwilio projectau newydd, yn enwedig projectau newydd a fydd yn canolbwyntio ar fiotechnoleg las. Rwy’n gyffrous am y cyfle i barhau i weithio gyda Pennotec ac i weithio ar ddatrysiadau arloesol newydd sy’n harneisio ffynonellau morol ar gyfer cymwysiadau cynaliadwy. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â fy nghefndir mewn bioleg môr, gan ei fod yn caniatáu i mi integreiddio fy ngwybodaeth am ecosystemau ac organebau morol â biotechnoleg. Drwy barhau gyda Pennotec, rwy’n gobeithio chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu projectau a datblygu datrysiadau cynaliadwy.
Mae'r interniaeth hon wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Mae wedi caniatáu i mi barhau i fyw yng ngogledd Cymru heb orfod adleoli ar gyfer gyrfa. Byddwn yn argymell i fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a chyflogwyr ystyried gwneud cais am interniaethau drwy’r Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd. I raddedigion fel fi, mae'n rhoi cyfle i ennill profiad ymarferol a datblygu sgiliau ymarferol mewn amgylchedd proffesiynol, sy'n hanfodol ar gyfer gwella rhagolygon gyrfa.
I gyflogwyr, mae'r cynllun hefyd yn ffordd o gael mynediad at raddedigion diweddar ac unigolion sy'n fodlon cyfrannu a dysgu. Ar ôl cael profiad personol o’r cynllun, rwy’n credu ei fod yn cynnig budd i bawb sy’n gysylltiedig. Mae'r cynllun hefyd yn helpu i hysbysebu busnesau lleol yng ngogledd Cymru, gan nad yw llawer o raddedigion yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd mor agos at Fangor, ac felly’n adleoli. O ganlyniad, mae’r cynllun hwn yn creu cylch cadarnhaol o ddatblygu economaidd a chydweithio, sydd o fudd i’r busnes a’r rhanbarth.
Gair gan Jonathan Williams, Cyfarwyddwr Pennotec
I ddechrau swydd mewn labordai ymchwil a datblygu fel ein un ni, fel arfer mae angen sawl mis o hyfforddiant er mwyn cael dealltwriaeth o sylfaen wyddonol, technegau gwyddonol a thechnolegau’r busnes cyn y gellir gwneud cyfraniad sylweddol i’r busnes. Oherwydd hynny, mae recriwtio’n cynnwys risg y bydd y recriwt a’r cwmni’n gwahanu naill ai yn ystod neu’n syth ar ôl y cyfnod buddsoddi mewn hyfforddiant. Mae'r interniaeth 3 mis a ariennir yn lleihau'r risg hon.
Oherwydd gwybodaeth gefndir ac arbenigedd Evie mewn Bioleg Môr a'r profiad ymchwil ac adrodd perthnasol a gafodd Evie trwy ei gradd Meistr, llwyddodd i wneud cyfraniad diriaethol i'n gweithgareddau ymchwil labordy yn gymharol gynnar yn ei lleoliad.
Mae Evie bob amser yn awyddus i ddysgu a chyfrannu syniadau a mewnwelediadau o safbwynt biolegydd môr. Ar ôl cwblhau ei hinterniaeth gan ennill profiad labordy gwerthfawr mewn rôl Cynorthwyydd Labordy, cafodd Evie ei dyrchafu’n Wyddonydd Labordy yn ddiweddar. Mae hi wedi manteisio ar gyfleoedd i gyflwyno ein gweithgarwch ymchwil ar-lein ac mewn gweithdai allanol. Yn y dyfodol, bydd disgwyl i Evie chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad y cwmni i ddatblygu a marchnata cynhwysion morol, a fydd yn datblygu ei chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol ymhellach.