Prifysgol Bangor yn dal ei gafael yn y wobr dosbarth cyntaf am y seithfed flwyddyn yn olynol
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei chydnabod unwaith eto am ei hymrwymiad eithriadol i gynaliadwyedd, wrth iddi lwyddo i ddal ei gafael yn y Wobr Dosbarth Cyntaf yng nghynghrair prifysgolion People and Planet 2025/26. Dyma'r seithfed flwyddyn yn olynol i'r brifysgol lwyddo i wneud hynny.
Mae Prifysgol Bangor bellach yn safle 25 allan o 147 o brifysgolion ym maes cynaliadwyedd yn y tabl cynghrair ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
Ymhlith y llwyddiannau nodedig mae cyrraedd y 12fed safle yn genedlaethol am Reoli Carbon, ac er nad oes is-gategorïau penodol ar gyfer Ymgysylltiad Staff a Myfyrwyr a Staff ac Adnoddau Dynol, mae Prifysgol Bangor yn parhau i sgorio'n uchel yn y meysydd hynny hefyd.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Is-Brofost (Ymgysylltu Byd-eang), sy'n arwain ar Gynaliadwyedd, "Ni allem fod yn fwy balch o gynnal ein safle fel un o brifysgolion mwyaf cynaliadwy'r Deyrnas Unedig.
“Mae bod yn y Dosbarth Cyntaf am saith mlynedd yn olynol yn gamp aruthrol.
“Nid dim ond un rhan o’r Brifysgol, neu un grŵp bach o bobl, sy’n gyfrifol am hyn, yn hytrach mae’r diolch i’r gwaith y mae pob un ohonom yn ei wneud, bob dydd, ar draws y sefydliad.”
Ychwanegodd yr Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, "Mae cynghrair prifysgolion People and Planet yn un o'r tablau cynghrair pwysicaf oherwydd ei fod yn ystyried pob maes o gynaliadwyedd, nid dim ond y materion amgylcheddol amlwg.
“Nid yw wedi bod yn hawdd dal ein gafael ar ein safle yn y Dosbarth Cyntaf eleni, felly rydym yn arbennig o falch o’r canlyniad.”
“Mae hon yn brifysgol wych am gynifer o resymau, ac mae'n wych bod ein hymdrechion ym maes cynaliadwyedd wedi cael eu cydnabod fel hyn unwaith eto - mae pawb yn y Brifysgol yn rhan o hyn, a dylai pob un ohonom fod yn falch iawn o'r gwaith rydym yn ei wneud,” ychwanegodd.
Am ragor o wybodaeth am fentrau cynaliadwyedd y brifysgol, ewch i Tudalennau Gwe Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor.