Ysgol Fusnes Albert Gubay yn Sicrhau Canlyniadau Rhagorol yn Arolwg PTES
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi sicrhau canlyniadau rhagorol yn Arolwg Profiad Ôl-raddedig a Addysgir (PTES) 2025, gan atgyfnerthu ei henw da fel canolfan flaenllaw ar gyfer addysg ôl-raddedig. Bob blwyddyn, mae cannoedd o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd yn graddio o’r Ysgol, gan elwa ar ei hymrwymiad i ragoriaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr.
Yr unig arolwg ar draws y DU sy’n casglu barn myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir am eu profiad dysgu ac addysgu yw PTES. Eleni, sicrhaodd yr Ysgol y 6ed safle yn gyffredinol yn y categori Busnes a Rheolaeth (allan o 83 o sefydliadau), gyda sgôr bodlonrwydd eithriadol o 94%.
Dywedodd yr Athro Owain ap Gwilym, Dirprwy Bennaeth Ysgol Fusnes Albert Gubay:
“Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi sicrhau’r 6ed safle yn gyffredinol yn Arolwg Profiad Ôl-raddedig a Addysgir cenedlaethol ar gyfer Busnes a Rheolaeth (allan o 83 o sefydliadau). Mae hwn yn ganlyniad rhagorol i’w ddathlu yn ystod ein wythnos graddio ôl-raddedig. Arweiniodd ymatebion y myfyrwyr at sgôr bodlonrwydd cyffredinol o 94%. Mae hyn yn adlewyrchu ymdrech enfawr gan ein staff i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n myfyrwyr ac rydym yn falch iawn o’r cyflawniad hwn. Bydd yr Ysgol yn parhau i ymdrechu i gynnal y rhagoriaeth hon fel bod myfyrwyr yn y dyfodol yn parhau i fwynhau un o’r profiadau gorau yn y DU ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ym maes busnes a rheolaeth.”
Mae’r canlyniadau hyn yn tystio i ymrwymiad yr Ysgol i ddarparu addysgu o ansawdd uchel a chefnogaeth gynhwysfawr, gan sicrhau profiad eithriadol i fyfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor.
Darganfyddwch fwy am ein rhaglenni ôl-raddedig yma.