Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ond byddwn yn gyffredinol yn annog i fyfyrwyr anfon eu cais cyn diwedd mis Mehefin os yn cychwyn ym mis Medi neu diwedd mis Hydref os yn cychwyn mis Ionawr.
Os oes gen ti unrhyw ymholiadau am astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor, cysyllta â ni.
Cyrsiau Ôl-raddedig Hyfforddedig
- Dysgu manwl mewn darlithoedd a seminarau
- Marc terfynol yn ddibynnol iawn ar asesiadau amrywiol
- Pwyslais ar ennill sgiliau
- Agweddau o ymchwil annibynnol
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig y graddau ôl-raddedig hyfforddedig canlynol; MSc, MA, MBA, MMus, LLM, TAR.
Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig
- Yn canolbwyntio ar ymchwil annibynnol
- Marc terfynol yn ddibynnol iawn ar draethawd hir
- Cyfraniadau gwreiddiol i'r maes
- Llawer o ymreolaeth
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig y graddau ymchwil ôl-raddedig canlynol; LLM, PhD, MPhil, MRes, Doethuriaeth Broffesiynol, MScRes, MARes, DHealthCare, EdD, MMusRes.
Diolch i gefnogaeth ddiwyro fy ngoruchwyliwr a'r partneriaethau amhrisiadwy y mae'r brifysgol wedi'u meithrin gyda sefydliadau lleol, llwyddais i fagu'r hyder i ragori yn fy astudiaethau ôl-raddedig. Erbyn heddiw, rwy'n falch o fod mewn swydd werth chweil gyda chwmni technoleg arloesol.
Mwy am Brifysgol Bangor
Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr ôl-raddedig sydd:
- Yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
- Yn gwneud cais ar gyfer cwrs a gynhelir ar ein campws ym Mangor
- Yn llwyddo i ennill statws diamod cyn 7 Awst (gall myfyrwyr rhyngwladol sydd â llythyr o gynnig amodol wneud cais hefyd)
- Yn gwneud cais am le mewn neuadd erbyn 7 Awst
Sylwa, mae ein llety i ôl-raddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, en-suite, fflatiau stiwdio a thai yn y dref. Os wnei di gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 7 Awst, galli di ddewis pa ystafell fyddai orau gennyt.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae yna rywbeth i fyfyrwyr o bob math, sy’n rhoi profiad unigryw a phersonol i bawb. Mae rhai agweddau ar fywyd myfyriwr sy'n helpu i greu profiad prifysgol yn cynnwys:
- Ystod eang o glybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli.
- Amrywiaeth o fariau, clybiau, a chaffis at ddant pob math o chwaeth.
- Digon o gyfleoedd i archwilio'r ardal gyfagos rhwng y môr a’r mynyddoedd.
- Cyfleusterau chwaraeon rhagorol gan gynnwys;
- Cae 3G wedi'i ardystio gan FIFA a Rygbi'r Byd
- Caeau glaswellt awyr agored
- Neuaddau chwaraeon
- Campfeydd gan gynnwys campfa berfformio
- Cyrtiau sboncen
- Wal ddringo aml-lwybr
- Trac athletau
Mae gan Brifysgol Bangor lawer o adnoddau arbenigol sy'n gysylltiedig â phynciau penodol ac sy'n wych o ran ategu gweithgareddau ymchwil. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys;
- Llong ymchwil
- Sganiwr MRI
- Siambr hinsoddol
- Amgueddfa Hanes Natur
- Gardd Fotaneg
Mae gan Brifysgol Bangor ystod drawiadol o adnoddau a chyfleusterau dysgu, gan gynnwys;
- Casgliad helaeth o lyfrau a chylchgronau
- Dros 1000 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr
- Ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr
- Mannau dysgu cymdeithasol
- Cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf
Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi a gofalu am ein myfyrwyr. Mae arnom ni eisiau sicrhau y byddi di yn ffynnu ym mhob ffordd yn ystod dy gyfnod yma. Dyma rai o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr;
- Arweinwyr Cyfoed a Thiwtoriaid Personol
- Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr
- Cyngor ariannol
- Cefnogaeth iechyd a llesiant
- Cyngor ar lety preifat
- Cefnogaeth dyslecsia
- Chwnsela
- Cymorth Anabledd
- Sgiliau Astudio